Skip to content

Ymgysylltu â natur

Neidio'r tabl cynnwys

Manteision bod yn gysylltiedig â natur

Gall treulio amser ym myd natur ac o gwmpas natur yn ystod y diwrnod gwaith ddod â llawer o fanteision i iechyd a llesiant gweithwyr, sy’n arwain at lai o absenoldeb a gwell cynhyrchiant:

Iechyd meddwl a llesiant

Mae ymchwil wedi dangos bod treulio amser ym mhresenoldeb natur yn rhoi hwb sylweddol i iechyd a llesiant, gan gynnwys llai o straen, adfer sylw, a llesiant a phositifrwydd gwell. Dysgwch ragor am iechyd meddwl a llesiant yn y gwaith a rheoli straen.

Gweithgarwch corfforol

Mae mannau gwyrdd fel parciau neu erddi yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl fod yn egnïol. Gall cynnal cyfarfodydd wrth gerdded, seibiannau awyr agored neu deithiau cerdded amser cinio helpu staff i symud mwy yn ystod y dydd, sy’n creu cyfleoedd i fod o gwmpas natur hefyd. Mae gweithleoedd llesol yn dod â manteision pellach i fusnesau a gweithwyr hefyd.

Rhyngweithio cymdeithasol

Gall mannau gwyrdd cyhoeddus helpu pobl i gysylltu ag eraill. Boed yn sgwrs wrth gerdded neu ymuno â gweithgaredd grŵp yn yr awyr agored, gall natur helpu i feithrin cysylltiadau cymdeithasol cryfach a gwella gwaith tîm.

Microbiom

Mae natur yn llawn organebau bach na allwn eu gweld, ond maen nhw’n bwysig i’n hiechyd. Mae treulio amser yn yr awyr agored yn ein helpu i ddod i gysylltiad â’r micro-organebau hyn, a all gefnogi microbiom iach – dyma’r casgliad o facteria defnyddiol yn ein cyrff, a all hybu ein systemau imiwnedd a’n helpu i gadw’n iach.

Aer glanach

Mae coedwigoedd, planhigion a chefnforoedd yn helpu i amsugno nwyon tŷ gwydr niweidiol. Gall gwella gallu natur i amsugno allyriadau, drwy gadwraeth ac adfer, helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae cefnogi digwyddiadau fel Diwrnod Aer Glân yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth a helpu i greu gweithle iachach.

Cynaliadwyedd

Mae pobl sy’n cysylltu mwy â byd natur yn fwy tebygol o gymryd camau i’w diogelu, a chymryd rhan mewn ymddygiadau mwy cynaliadwy ar gyfer yr amgylchedd.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 9th Gorffennaf 2025