Profion Antigen Prostad-benodol (PSA) ar y safle ar gyfer staff Grŵp Llandrillo Menai
Lansiodd Grŵp Llandrillo Menai ei ymgyrch Sgwrs Gyda’r Hogia i godi ymwybyddiaeth o iechyd dynion a chanser y brostad.
Drwy ddarparu profion PSA ar y safle i staff 40 oed a hŷn, cynyddodd y sefydliad fynediad at brofion sgrinio, anogodd gynnal sgyrsiau am iechyd dynion, a chefnogodd gyfleoedd i ganfod afiechyd yn gynnar.
Am Grŵp Llandrillo Menai
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn ddarparwr addysg bellach yng ngogledd Cymru.
Mae’n cyflogi tua 1,500 o staff ac yn darparu cyrsiau i oddeutu 20,000 o fyfyrwyr ledled Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd.
Yr her
Gwelodd Grŵp Llandrillo Menai gyfle i gynyddu ymwybyddiaeth o ganser y brostad ar ôl i aelod o staff a oedd wedi cael diagnosis a thriniaeth wirfoddoli i rannu ei stori bersonol drwy’r Hwb Llesiant Staff.
Roedd yr aelod o staff eisiau helpu ei gydweithwyr i ddeall y gall canser y brostad ddatblygu heb symptomau, sy’n golygu nad yw llawer o bobl yn ymwybodol eu bod mewn perygl. Tynnodd ei brofiad sylw at bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth ac annog cael sgyrsiau am iechyd dynion yn y gweithle.
Beth wnaeth y sefydliad?
Fel rhan o’i raglen llesiant staff, datblygodd Grŵp Llandrillo Menai ymgyrch Sgwrs Gyda’r Hogia i annog cael trafodaethau agored am iechyd dynion, gan ganolbwyntio’n benodol ar ymwybyddiaeth o ganser y brostad.
Roedd yr ymgyrch yn cynnwys:
- Creu a hyrwyddo deunyddiau ymwybyddiaeth am ganser y brostad a phrofion PSA.
- Annog cefnogaeth gan gymheiriaid drwy nodi aelodau o staff sy’n fodlon gweithredu fel pwyntiau cyswllt, gan gynnwys cydweithiwr a oedd wedi cefnogi ei gŵr trwy driniaeth ar gyfer canser y brostad.
- Cynnal sesiwn ymwybyddiaeth gyda chynrychiolwyr o Grŵp Cymorth Canser y Brostad Gogledd Cymru, a rannodd eu profiadau personol a gwybodaeth am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael.
Arweiniodd y diddordeb cryf yn y sesiwn ymwybyddiaeth at drafodaethau ynghylch sicrhau bod profion PSA yn fwy hygyrch i’r staff. Er mwyn cael gwared ar rwystrau fel amser cyfyngedig i fynd i apwyntiadau meddyg teulu neu anawsterau wrth gael mynediad at brofion, trefnodd y sefydliad brofion PSA am ddim ar y safle i weithwyr 40 oed a hŷn ar draws sawl lleoliad o’r coleg.
Y canlyniadau
Ysgogodd y fenter ymateb cadarnhaol gan staff a helpu i normaleiddio cael sgyrsiau am iechyd dynion yn y gweithle.
Roedd y canlyniadau allweddol yn cynnwys:
- Cafodd 57 aelod o staff brofion PSA ar draws campysau Glynllifon, Llangefni a Llandrillo-yn-Rhos.
- Derbyniodd staff ganlyniadau eu profion yn gyflym. Roedd y canlyniadau fel arfer ar gael y bore wedyn.
- Nododd y gweithwyr eu bod yn ddiolchgar am y cyfle i gael mynediad cyfleus at brofion yn y gwaith.
- Anogodd y fenter drafodaethau agored am iechyd dynion a chanser y brostad, ac fe helpodd i leihau’r stigma sy’n bodoli ynghylch pwnc nad yw’n aml yn cael ei drafod yn agored.
Canfu’r sefydliad y gall darparu ymyriadau iechyd yn y gweithle wella hygyrchedd ac annog mwy o ymgysylltiad â mesurau iechyd ataliol.
Rhannodd aelod o staff o Grŵp Llandrillo Menai:
“Gwnaeth fy mhrofiad blaenorol o’r mater hwn i mi feddwl bod angen rhaglen fewnol o fewn y grŵp, i gynorthwyo’r staff gyda’u hiechyd a llesiant.
Da iawn i bawb a gyfrannodd at y gwaith pwysig hwn.”
Awgrym gorau i gyflogwyr eraill
Gall dod â mentrau iechyd yn uniongyrchol i’r gweithle ei gwneud hi’n haws i weithwyr gael mynediad at gymorth a gwasanaethau iechyd ataliol. Gall lleihau rhwystrau i gyfranogiad helpu i gynyddu ymgysylltiad a gwella ymwybyddiaeth o faterion iechyd pwysig.