Sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi bwydo ar y fron yn y gwaith
Er mwyn cefnogi gweithwyr sy’n dychwelyd o absenoldeb mamolaeth, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyflwyno mannau pwrpasol i staff sy’n darparu amgylchedd diogel, cyfforddus a phreifat ar gyfer bwydo ar y fron, tra hefyd yn cefnogi anghenion llesiant.
Mae’r fenter hon wedi helpu i greu amgylchiadau mwy cynhwysol a chyfeillgar i deuluoedd.
Ynglŷn ag Iechyd Cyhoeddus Cymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru, sy’n cyflogi staff ar draws amrywiaeth o leoliadau cymunedol a swyddfeydd.
Yr her
Bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod y gallai gweithwyr sy’n dychwelyd i’r gwaith tra’n bwydo ar y fron wynebu heriau wrth gael mynediad at gyfleusterau addas ynghyd â’r angen i gydbwyso gwaith â bwydo ar y fron. Bod darparu lle a chefnogaeth briodol yn hanfodol i sicrhau bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu parhau i fwydo ar y fron cyhyd ag y bod nhw’n dymuno gwneud hynny.
Beth wnaeth y sefydliad?
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi creu gofod pwrpasol sef Y Nyth ar gyfer cydweithwyr fel eu bod cyfle i fwydo ar y fron, myfyrio, eu llesiant personol ac anghenion magu plant. Ar hyn o bryd mae dau Nyth wedi eu sefydlu gyda mwy i ddod.
Mae’r tîm Cyfleusterau wedi gweithio agos gyda rhwydweithiau staff a gweithwyr i lunio’r gofod yma. Roedd eu hadborth yn sicrhau bod yr ystafell yn diwallu amrywiaeth o anghenion ac yn parchu’r gwahanol ffyrdd y gallai cydweithwyr ddefnyddio’r gofod hwnnw.
Roedd y gwaith yn cynnwys:
- Sefydlu gofod pwrpasol, preifat ar gyfer bwydo ar y fron
- Darparu ystafell gyda seddi cyfforddus, trefniadau preifatrwydd a chyfleusterau priodol
- Hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r Nyth a’r cymorth sydd ar gael o fewn y sefydliad.
Y canlyniadau - Gwell cymorth i weithwyr sy’n bwydo ar y fron yn y gweithle
- Gwell ymwybyddiaeth o arferion sy’n gyfeillgar i fwydo ar y fron yn y gweithle
- Cyfrannu at amgylchedd gwaith mwy cadarnhaol a chynhwysol
Yn ôl Claire Birchall, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Llywodraethu Integredig, a fu’n gyfrifol am agor yr ystafell:
“Dwi’n falch o agor lle pwrpasol ar gyfer rhieni. Lle sydd wedi’i gynllunio i ddarparu cysur, preifatrwydd a chefnogaeth i gydweithwyr sy’n cydbwyso gofynion gwaith a bod yn rhiant. Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru rydym am gefnogi pob teulu yng Nghymru i fwydo ar y fron cyhyd a’u bod yn dymuno gwneud hynny ac mae’r gwaith hwnnw yn dechrau gyda’n staff. Mae’r gofod hwn yn darparu amgylchedd pwrpasol i gydweithwyr yn CQ2 i orffwys a bwydo, gan eu helpu i gyfuno byd gwaith a bwydo ar y fron cyhyd ag y maen nhw’n dymuno gwneud hynny”.
Cyngor i gyflogwyr eraill
Dechreuwch drwy greu cefnogaeth ymarferol a gweladwy. Gall gofod preifat pwrpasol wneud gwahaniaeth sylweddol i brofiad gweithiwr sy’n dychwelyd i’r gwaith ac yn bwydo ar y fron.