Skip to content

Sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi’r menopos a llesiant yn y gwaith

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cryfhau cefnogaeth i staff sy’n profi’r menopos drwy godi ymwybyddiaeth, darparu canllawiau ac adnoddau, cynnwys y menopos yn ei fentrau llesiant a chydraddoldeb ac annog sgyrsiau agored ar draws y sefydliad.

Drwy gefnogaeth gan reolwyr, gweithio hyblyg, addasiadau i’r gweithle a mentrau cefnogaeth gan gymheiriaid fel Caffi Menopos, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu i greu gweithle mwy cynhwysol, deallgar ac ystyriol o’r menopos lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth i ffynnu.

Trosolwg o’r sefydliad

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw asiantaeth iechyd y cyhoedd genedlaethol Cymru. Mae’n gweithio i amddiffyn a gwella iechyd a llesiant, lleihau anghydraddoldebau iechyd a chefnogi cymunedau iachach ledled y wlad.
Mae’r sefydliad yn cyflogi dros 2,300 o staff sy’n gweithio ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys diogelu iechyd, gwella iechyd, sgrinio, microbioleg, deallusrwydd iechyd y cyhoedd, ymchwil a pholisi.

Fel sefydliad gofal iechyd yn y sector cyhoeddus, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu gweithle cynhwysol, cefnogol ac iach sy’n galluogi’r holl staff i ffynnu a chyfrannu at ei genhadaeth o adeiladu Cymru iachach a thecach.

Mae gweithio hyblyg yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi llesiant, cynhwysiant a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gweithwyr. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd gweithio hyblyg sy’n galluogi staff i weithio mewn ffyrdd sy’n cefnogi eu hamgylchiadau personol wrth barhau i ddarparu gwasanaethau iechyd y cyhoedd o ansawdd uchel.

Yr her

O ystyried bod 73% o weithlu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi eu bod yn fenywod a thua hanner yr holl staff dros 40 oed, mae’r menopos yn ystyriaeth bwysig yn y gweithle i lawer o aelodau staff.

Gall y menopos achosi amrywiaeth o symptomau corfforol, emosiynol a seicolegol sy’n gallu effeithio ar iechyd, llesiant, hyder a pherfformiad yn y gwaith. Gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gydnabod yr angen i sicrhau bod staff sy’n profi’r menopos yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u deall, a’u bod yn gallu cael mynediad at gyngor priodol ac addasiadau i’r gweithle pan fo angen.

Nododd y sefydliad hefyd gyfle i gynyddu ymwybyddiaeth o’r menopos ar draws y gweithlu, lleihau stigma a rhoi’r hyder a’r wybodaeth i reolwyr gael sgyrsiau cefnogol gyda staff.

Beth wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru?

Defnyddiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddull rhagweithiol drwy ymgorffori ymwybyddiaeth o’r menopos a chefnogaeth yn ei agenda llesiant, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ehangach.

Roedd y camau allweddol yn cynnwys:

  • Datblygu canllawiau ac adnoddau ar y menopos i helpu staff i ddeall y menopos a chael mynediad at gymorth priodol
  • Cyflwyno gwybodaeth a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth i gynyddu dealltwriaeth, herio camsyniadau ac annog sgyrsiau agored am y menopos yn y gwaith
  • Darparu canllawiau ac adnoddau i reolwyr i gefnogi sgyrsiau sensitif ac ystyried addasiadau rhesymol yn y gweithle
  • Hyrwyddo trefniadau gweithio hyblyg i helpu staff i reoli symptomau’r menopos ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau yn y gwaith
  • Cynnwys y menopos mewn mentrau llesiant ehangach, gan gydnabod yr effaith y gall ei chael ar iechyd corfforol a llesiant meddyliol
  • Creu diwylliant gweithle lle mae staff yn teimlo’n ddiogel yn trafod y menopos ac yn ceisio cymorth heb ofni barn na gwahaniaethu
  • Hybu mynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol, cymorth llesiant gweithwyr a rhwydweithiau staff
  • Sefydlu Caffi Menopos, sy’n darparu amgylchedd diogel, anffurfiol a chefnogol lle gall staff rannu profiadau, gael mynediad at gefnogaeth gan gymheiriaid a dysgu rhagor am y menopos

Drwy’r camau gweithredu hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cryfhau ei ymrwymiad i greu gweithle sy’n ystyriol o’r menopos lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u grymuso i reoli eu hiechyd a’u llesiant yn y gwaith.

Y canlyniadau

Mae gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi’r menopos a llesiant wedi cyfrannu at ddiwylliant gweithle mwy agored, gwybodus a chynhwysol. Mae gan staff fynediad gwell at wybodaeth, cefnogaeth ac addasiadau i’r gweithle ac maent yn gynyddol hyderus wrth drafod y menopos a cheisio cymorth pan fo angen.

Mae’r canlyniadau allweddol yn cynnwys:

  • Mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r menopos ar draws y sefydliad
  • Mwy o sgyrsiau agored am y menopos, a fydd yn helpu i leihau stigma a herio camsyniadau
  • Mwy o hyder ymhlith rheolwyr wrth gefnogi staff sy’n profi symptomau’r menopos
  • Gwell amlygrwydd a defnydd o adnoddau llesiant a gwasanaethau cymorth
  • Gwell cefnogaeth gan gymheiriaid drwy fentrau fel y Caffi Menopos, sy’n rhoi cyfleoedd i staff rannu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd
  • Gwell mynediad at drefniadau gweithio hyblyg ac addasiadau i’r gweithle lle bo’n briodol
  • Diwylliant gweithle mwy cynhwysol lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u bod yn gallu perfformio ar eu gorau

Awgrym gorau i gyflogwyr eraill

Gwnewch y menopos yn flaenoriaeth llesiant a chynhwysiant yn y gweithle, yn hytrach na dim ond problem iechyd unigol. Gall codi ymwybyddiaeth, rhoi’r hyder i reolwyr gael sgyrsiau cefnogol a chreu mannau diogel fel grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid neu gaffis menopos helpu i leihau stigma a sicrhau bod staff yn teimlo eu bod yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu yn y gwaith.

Adnoddau i gyflogwyr