Dylid amlinellu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer bwydo ar y fron yn y gweithle. Dylid cynnwys sut y gall gweithwyr ofyn am drefniadau penodol wrth ddychwelyd i’r gwaith a pharhau i fwydo ar y fron.
Sicrhewch fod eich polisi ar gael i’r holl staff. Gallwch ei ychwanegu at bolisi neu lawlyfr sy’n bodoli eisoes a chynnal adolygiadau rheolaidd.
Os ydych yn fusnes llai, efallai na fydd angen polisi ffurfiol arnoch. Ond mae’n dal yn bwysig trafod cefnogaeth i fwydo ar y fron gyda gweithwyr.
Mae ein Pecyn Cymorth ar Fwydo ar y Fron yn y Gweithle hefyd yn cynnwys siarter bwydo ar y fron. Mae’r ddogfen hon yn rhoi fframwaith clir ar gyfer cefnogi rhieni sy’n
bwydo ar y fron yn y gweithle a gall cyflogwyr ddangos eu hymrwymiad i arferion gorau drwy roi ei safonau ar waith.
Mae ein bathodyn Cyflogwr sy’n Ystyriol o Fwydo ar y Fron ar gael i sefydliadau sydd wedi ymrwymo i’r siarter bwydo ar y fron.