Mae creu amgylchedd cefnogol, sy’n seicolegol ddiogel, yn fwy nag arfer da; mae’n gwella ymgysylltu, cynhyrchiant, cyfraddau cadw staff a diwylliant sefydliadol.
Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud yn eich gweithle:
Creu amgylchedd cefnogol
- Annog sgyrsiau agored am iechyd meddwl mewn ffordd anfeirniadol
- Sicrhau bod arweinwyr yn dangos gofal ac yn blaenoriaethu llesiant
- Normaleiddio gofyn am help a lleihau stigma
Egluro rolau a disgwyliadau
- Rhoi cyfarwyddiadau clir a dyddiadau cau realistig
- Lleihau gofynion brys munud olaf
- Sicrhau bod llwythi gwaith yn hydrin ac yn deg
Cynnig hyblygrwydd
- Ystyried patrymau gweithio hyblyg neu hybrid
- Darparu mannau tawel neu lai o lwyth gwaith yn ystod cyfnodau anodd
- Gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer unigolion sy’n dioddef o orbryder
Hyfforddi rheolwyr
- Helpu rheolwyr i adnabod arwyddion cynnar o orbryder
- Eu hyfforddi i wrando, cefnogi a chyfeirio’n effeithiol
- Annog dull o ddatrys problemau yn hytrach na ffocws ar fai
Dangos ble i gael cymorth
Monitro llwyth gwaith a diwylliant
- Defnyddio sgyrsiau, arolygon neu drafodaethau tîm rheolaidd i nodi pwyntiau pwysau
- Gweithredu’n gynnar i fynd i’r afael â phatrymau afiach
- Hyrwyddo cynhwysiant a pharch drwy’r holl sefydliad
Annog seibiannau a chydbwysedd rhwng gwaith a bywyd
- Annog gweithwyr i gymryd seibiannau rheolaidd a defnyddio gwyliau blynyddol
- Creu diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu hannog i orffen ar amser
- Cefnogi gweithgareddau lles fel ymwybyddiaeth ofalgar, symud rheolaidd, ymgysylltu â natur a chysylltiad cymdeithasol.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28th Mai 2026