Skip to content

Gorbryder yn y gweithle

Dysgwch am bwysigrwydd cefnogi gweithwyr sydd â phryder a dod o hyd i ffyrdd o helpu gweithwyr i deimlo'n werthfawr ac yn hyderus.

Neidio'r tabl cynnwys

Deall gorbryder

Gall ddigwydd oherwydd pwysau llwyth gwaith, disgwyliadau aneglur, ansicrwydd swydd, pryderon am berfformiad, perthnasoedd yn y gweithle, amgylcheddau sy’n seicolegol anniogel neu newid sefydliadol.

Gall gorbryder effeithio ar berfformiad, presenoldeb, cyfathrebu a llesiant cyffredinol. Gyda’r ymwybyddiaeth a’r gefnogaeth gywir, gall sefydliadau leihau ei effaith yn sylweddol.

Efallai y bydd rhai gweithwyr wedi cael diagnosis o gyflyrau sy’n gysylltiedig â gorbryder, megis:

Fodd bynnag, mae llawer o weithwyr yn dioddef gorbryder sylweddol heb gael diagnosis ffurfiol.

Nid yw gorbryder bob amser yn ymddangos fel straen gweladwy. Gall ymddangos trwy newidiadau mewn ymddygiad, emosiynau, neu iechyd corfforol.

Gall arwyddion ymddygiadol gynnwys:

  • Osgoi cyfarfodydd neu gyflwyniadau
  • Mwy o o absenoldeb oherwydd salwch
  • Tynnu’n ôl oddi wrth gydweithwyr
  • Gorweithio, perffeithiaeth neu lai o gyfranogiad

Gall arwyddion emosiynol gynnwys:

  • Anniddigrwydd neu ddiffyg hyder
  • Mwy o sensitifrwydd i adborth
  • Ceisio sicrwydd yn ormodol

Gall arwyddion corfforol gynnwys:

  • Gorflinder
  • Cur pen neu broblemau stumog
  • Aflonyddwch neu anhawster canolbwyntio

Gallwch ddysgu mwy ar wefan GIG 111 Cymru.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28th Mai 2026