Awtistiaeth yn y gweithle
Dysgwch am awtistiaeth yn y gweithle, gwerth cefnogi gweithwyr ag awtistiaeth a ffyrdd o greu gweithleoedd cynhwysol lle gall gweithwyr ffynnu.
Deall awtistiaeth
Mae awtistiaeth yn effeithio ar brofiad pobl o’r byd a sut maent yn rhyngweithio â’r byd. Mae’n rhywbeth y caiff person ei eni ag ef ac sy’n para drwy gydol ei oes. Niwrowahaniaeth ac anabledd gydol oes yw awtistiaeth.
Mae pobl awtistig i gyd yn wahanol i’w gilydd, ond maent yn rhannu rhai gwahaniaethau sy’n eu gwneud yn wahanol i bobl nad ydynt yn awtistig, a hynny yn y ffordd maen nhw’n meddwl, yn teimlo, ac yn cyfathrebu.
Gallai pobl awtistig:
- Ei chael hi’n anoddach deall teimladau pobl eraill neu reolau cymdeithasol
- Bod â ddiddordebau cryf mewn pynciau penodol a dymuno canolbwyntio llawer arnynt
- Bod yn sensitif iawn i synau, goleuadau, cyffyrddiadau, neu deimladau eraill
- Ffafrio trefn arferol a gallu cynhyrfu os bydd pethau’n newid yn sydyn
Dysgwch ragor am awtistiaeth.
Heriau yn y gweithle
Mae heriau yn y gweithle i oedolion awtistig yn cynnwys:
Yn aml, yr amgylchedd, nid y person, sy’n achosi’r heriau hyn. Efallai y bydd llawer o oedolion awtistig yn masgio anawsterau yn y gwaith i geisio ymddangos yn gymwys a ffitio i mewn. Ystyr masgio yw cuddio ymddygiadau naturiol neu wneud iawn yn ormodol am heriau fel rheoli amser, ffocws a rhyngweithio cymdeithasol.
Gall masgio am amser hir arwain at straen, gorbryder, gorflinder a diffygio (burnout). Mae ymchwil yn dangos bod masgio ymhlith y prif bethau sy’n achosi anawsterau iechyd meddwl yn y gwaith.
Mae gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol fwy o wybodaeth am fasgio (Saesneg yn unig).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28th Mai 2026