Skip to content

Awtistiaeth yn y gweithle

Dysgwch am awtistiaeth yn y gweithle, gwerth cefnogi gweithwyr ag awtistiaeth a ffyrdd o greu gweithleoedd cynhwysol lle gall gweithwyr ffynnu.

Neidio'r tabl cynnwys

Deall awtistiaeth

Mae awtistiaeth yn effeithio ar brofiad pobl o’r byd a sut maent yn rhyngweithio â’r byd. Mae’n rhywbeth y caiff person ei eni ag ef ac sy’n para drwy gydol ei oes. Niwrowahaniaeth ac anabledd gydol oes yw awtistiaeth.

Mae pobl awtistig i gyd yn wahanol i’w gilydd, ond maent yn rhannu rhai gwahaniaethau sy’n eu gwneud yn wahanol i bobl nad ydynt yn awtistig, a hynny yn y ffordd maen nhw’n meddwl, yn teimlo, ac yn cyfathrebu.

Gallai pobl awtistig:

  • Ei chael hi’n anoddach deall teimladau pobl eraill neu reolau cymdeithasol
  • Bod â ddiddordebau cryf mewn pynciau penodol a dymuno canolbwyntio llawer arnynt
  • Bod yn sensitif iawn i synau, goleuadau, cyffyrddiadau, neu deimladau eraill
  • Ffafrio trefn arferol a gallu cynhyrfu os bydd pethau’n newid yn sydyn

Dysgwch ragor am awtistiaeth.

Heriau yn y gweithle

Mae heriau yn y gweithle i oedolion awtistig yn cynnwys:

Disgwyliadau cymdeithasol

Gall deall rheolau anysgrifenedig, arferion y swyddfa, neu awgrymiadau cynnil fod yn flinedig gan arwain weithiau at gamddealltwriaeth .

Sensitifrwydd synhwyraidd

Gall sŵn, goleuadau llachar, swyddfeydd agored, neu dorri ar draws mynych fod yn llethol ac effeithio ar ffocws a chysur.

Newidiadau a thrawsnewidiadau

Gall newidiadau sydyn mewn tasgau, amserlenni neu flaenoriaethau achosi straen ac amharu ar lif gwaith.

Cynllunio a threfnu

Gall rheoli tasgau, dyddiadau cau a blaenoriaethau fynnu ymdrech ychwanegol.

Pwysigrwydd trefn arferol

Mae strwythurau clir a threfniadau rhagweladwy yn helpu i leihau straen a gwella perfformiad.

Hyder ac integreiddio

Gall yr heriau hyn effeithio ar ryngweithiadau cymdeithasol, ymgysylltu yn y gweithle a dilyniant gyrfa.

Yn aml, yr amgylchedd, nid y person, sy’n achosi’r heriau hyn. Efallai y bydd llawer o oedolion awtistig yn masgio anawsterau yn y gwaith i geisio ymddangos yn gymwys a ffitio i mewn. Ystyr masgio yw cuddio ymddygiadau naturiol neu wneud iawn yn ormodol am heriau fel rheoli amser, ffocws a rhyngweithio cymdeithasol.

Gall masgio am amser hir arwain at straen, gorbryder, gorflinder a diffygio (burnout). Mae ymchwil yn dangos bod masgio ymhlith y prif bethau sy’n achosi anawsterau iechyd meddwl yn y gwaith.

Mae gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol fwy o wybodaeth am fasgio (Saesneg yn unig).

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28th Mai 2026