Awtistiaeth yn y gweithle
Dysgwch am awtistiaeth yn y gweithle, gwerth cefnogi gweithwyr ag awtistiaeth a ffyrdd o greu gweithleoedd cynhwysol lle gall gweithwyr ffynnu.
Gwerth cefnogi gweithwyr awtistig
Ar hyn o bryd, dim ond 3 o bob 10 oedolyn awtistig o oedran gweithio sydd mewn cyflogaeth (Saesneg yn unig). Mae hyn yn golygu bod dros ddwy ran o dair o oedolion awtistig yn methu cael yr annibyniaeth a’r ymdeimlad o bwrpas y gall swydd ei gynnig.
Cefnogi gweithwyr awtistig yw’r peth cywir i’w wneud, ond hefyd mae’n dod â manteision mesuradwy i gyflogwyr.
Trwy fod yn ddeallgar a darparu addasiadau rhesymol ac arferion cynhwysol, gall gweithleoedd wella diwylliant a chynhyrchiant yn y gweithle.
Dangosodd adroddiad gan ACAS (Saesneg yn unig) y gall darparu cymorth rhagweithiol i weithwyr niwroamrywiol leihau trosiant a chostau recriwtio.
Mae ymchwil gan Pro Bono Economics (PBE) (Saesneg yn unig) hefyd yn awgrymu y gallai cynyddu cyfraddau cyflogaeth i oedolion awtistig fod o fudd i economi’r DU, a hynny hyd at £1.5 biliwn bob blwyddyn.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28th Mai 2026