Awtistiaeth yn y gweithle
Dysgwch am awtistiaeth yn y gweithle, gwerth cefnogi gweithwyr ag awtistiaeth a ffyrdd o greu gweithleoedd cynhwysol lle gall gweithwyr ffynnu.
Cwrdd â chyfrifoldebau cyfreithiol
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, (Saesneg yn unig) mae’n ofynnol i gyflogwyr yn gyfreithiol wneud addasiadau rhesymol i weithwyr ag anableddau, gan gynnwys awtistiaeth.
Trwy weithredu addasiadau rhesymol, gall cyflogwyr:
- Gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- Lleihau’r risg o hawliadau gwahaniaethu
- Hyrwyddo tegwch a chyfle cyfartal
- Meithrin diwylliant parchus, cynhwysol a chefnogol yn y gweithle
Ewch i wefan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol i gael gwybod mwy am addasiadau rhesymol (Saesneg yn unig).
Dysgwch fwy am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28th Mai 2026