Skip to content

Cefnogi gofalwyr yn y gwaith

Dysgwch am fanteision cefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu di-dâl a dysgwch beth allwch chi ei wneud i greu gweithle cefnogol.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi gefnogi gofalwyr di-dâl yn y gwaith.

Polisïau a chymorth

Darparu cymorth ychwanegol fel polisïau gofalwyr, rhwydweithiau gofalwyr, a rhaglenni cymorth gweithwyr (EAP).

Ystyried gweithredu pasbort gofalwr (Saesneg yn unig) yn rhan o’ch polisi gofalwyr.

Gweithio hyblyg

Gall cynnig opsiynau gweithio hyblyg helpu gweithwyr â chyfrifoldebau gofalu i ffitio gwaith o amgylch eu cyfrifoldebau eraill.

Gall gweithio hyblyg gynnwys gweithio o bell, oriau cywasgedig neu ran-amser.

Dysgwch fwy am weithio hyblyg.

Hyfforddiant i reolwyr

Uwchsgilio rheolwyr llinell gyda ffyrdd ymarferol o gefnogi gofalwyr.

Cyfeirio at wybodaeth ac adnoddau

Cyfeirio at y gwasanaethau gofal a chymorth sydd ar gael, ble i fynd am gyngor ariannol a budd-daliadau a ffyrdd o gyfuno gwaith a gofalu.

Yng Nghymru, mae amrywiaeth o sefydliadau a all eich cynorthwyo chi a’ch gweithwyr i greu gweithle sy’n cefnogi gofalwyr.

Mae adnoddau defnyddiol yn cynnwys:

Sgyrsiau agored

Creu gweithle lle mae siarad am ofalu am bobl o bob oedran yn cael ei annog a’i gefnogi.

Sefydlu a hyrwyddo ffyrdd i weithwyr siarad am ofalu, fel Rhwydwaith Gofalwyr.

Hyrwyddo ymwybyddiaeth

Hyrwyddo a chefnogi ymgyrchoedd fel Wythnos Gofalwyr.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 8th Mehefin 2026