Gorffennaf 2026

Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)

Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.

Y mis hwn:

  • Bathodynnau Cydnabod Cymru Iach ar Waith newydd
  • Calendr Lles a Natur yn y Gweithle newydd
  • Digwyddiadau CIW sydd ar ddod
  • Mae modd cofrestru bellach ar gyfer Safonau’r Siarter Teithio Llesol
  • Sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn defnyddio byd natur i gefnogi llesiant staff
  • Dyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol sydd ar ddod

Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.

Bathodynnau Cydnabod Cymru Iach ar Waith newydd

Active Employer Recognition Badge
Leading Employer Recognition Badge

Rydym yn falch iawn o lansio ein Bathodynnau Cydnabyddiaeth newydd, celebrating employers who are taking action to improve workplace health and wellbeing.

Mae’r bathodynnau’n cydnabod sefydliadau sy’n ymgysylltu â chefnogaeth Cymru Iach ar Waith, o gwblhau’r Offeryn Arolwg Cyflogwyr i ymuno â chyfleoedd dysgu a rhannu straeon llwyddiant.
Gall cyflogwyr ennill dau fathodyn:

  • Cyflogwr Gweithredol – dechrau gyda llesiant
  • Cyflogwr Blaenllaw – dangos arweinyddiaeth a chefnogi eraill

Mae cyfranogiad am ddim, yn wirfoddol ac yn agored i bob cyflogwr yng Nghymru.
Dechreuwch eich taith tuag at weithle iachach heddiw.

Dysgwch am Fathodynnau Cynabyddiaeth.

Calendr Lles a Natur yn y Gweithle newydd

Workplace Nature Wellbeing Calendar

Rydym yn gyffrous i rannu adnodd lles i’w ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn.

Cafodd Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle ei gyd-gynllunio gan RSPB Cymru a Chymru Iach ar Waith yn dilyn gweithdai gyda chyflogwyr. Bydd y gweithgareddau syml sydd wedi’u cynnwys yn eich helpu i gysylltu â natur ac maent wedi’u cynllunio i gefnogi a gwella eich llesiant a’ch iechyd.

Gallwch sylwi ar natur a chysylltu â hi drwy gydol y flwyddyn lle rydych chi’n byw neu’n gweithio ac mae’r gweithgareddau awgrymedig wedi’u nodi mewn calendr misol.

Gweld y calendr

Byddem wrth ein bodd yn gweld sut rydych chi a’ch timau’n defnyddio’r adnodd – cysylltwch â ni i rannu pa weithgareddau rydych chi wedi bod yn eu mwynhau a rhannwch unrhyw adborth sydd gennych am y calendr.

Digwyddiadau CIW sydd ar ddod

A close up of colleagues looking at a laptop on a desk, one of them is pointing at the screen.

Gweithdai Camau Cyntaf Cymru Iach ar Waith

TaCymerwch eich camau cyntaf tuag at iechyd a llesiant yn y gweithle.

Ydych chi’n newydd i iechyd a llesiant yn y gweithle, neu’n ansicr ble i ddechrau?

Mae ein gweithdai ymarferol, rhad ac am ddim, ‘Camau Cyntaf’, wedi’u cynllunio i helpu sefydliadau ledled Cymru i fwrw ati gyda hyder.

Yn ystod y gweithdy, byddwch yn:

  • Deall pam mae sicrhau llesiant yn y gweithle yn bwysig i’ch sefydliad
  • Myfyrio ar yr hyn y mae eich sefydliad eisoes yn ei wneud
  • Nodi’r camau cyntaf syml i gefnogi iechyd a llesiant yn eich gweithle

Drwy gymryd rhan byddwch hefyd yn gymwys i wneud cais am ein Bathodyn Cydnabyddiaeth Cyflogwr Gweithredol.
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig er mwyn cadw’r gweithdai’n ymarferol ac yn rhyngweithiol, felly fe’ch anogir i gofrestru’n gynnar.

Cofrestrwch ar gyfer gweithdy sydd ar ddod:

6 Awst 2026, 10:00 – 12:00

8 Hydref 2026, 10:00 – 12:00

21 Ionawr 2027, 10:00 – 12:00

Gweminar cefnogi gweithwyr bwydo ar y fron – 27 Gorffennaf 2026

Ymunwch â ni a Rachel Evans, Prif Fydwraig Genedlaethol am Fwydo ar y Fron, am ragolwg diddorol ar sut i gefnogi gweithwyr sy’n bwydo ar y fron yn y gweithle.

Mae’r sesiwn hon wedi’i chynllunio i helpu cyflogwyr ledled Cymru i gryfhau eu dull o gefnogi bwydo ar y fron a chreu gweithleoedd lle gall gweithwyr gyfuno gwaith a bwydo ar y fron yn llwyddiannus.

Bydd y weminar yn trafod:

  • Pam fod cymorth i weithwyr sy’n bwydo ar y fron yn bwysig
  • Profiadau gweithwyr yng Nghymru
  • Cyflwyno’r Pecyn Offer Bwydo ar y Fron i Reolwyr Llinell ledled Cymru
  • Rôl rheolwyr wrth gefnogi gweithwyr
  • Enghreifftiau o arfer da gan gyflogwyr
  • Adnoddau defnyddiol a chefnogaeth sydd ar gael i gyflogwyr

Dyddiad: 27 Gorffennaf 2026

Amser: 10:00 – 11:30

Lleoliad: Ar-lein (MS Teams)

Archebwch eich lle nawr!

Mae modd cofrestru bellach ar gyfer Safonau’r Siarter Teithio Llesol

Commuters leaving a train at a train station, one person is pushing a bike.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, wedi lansio Safonau Siarter Teithio Llesol newydd ar gyfer Cymru.

Mae’r safon yn darparu fframwaith cenedlaethol i helpu sefydliadau yng Nghymru i hyrwyddo teithio sy’n iachach, yn fwy cynaliadwy ac sy’n cynhyrchu llai o garbon.

Gan adeiladu ar lwyddiant Siarteri rhanbarthol ledled Cymru, mae’r Safonau newydd yn cynnig:

  • Camau mwy clir i sefydliadau eu cymryd
  • Tair lefel o gyflawniad
  • Mwy o hyblygrwydd, yn enwedig i sefydliadau sy’n gweithredu ar draws nifer o safleoedd neu ranbarthau.

Drwy gofrestru, gall cyflogwyr wneud y canlynol:

  • Cefnogi llesiant eu staff
  • Lleihau absenoldeb salwch
  • Lleihau allyriadau carbon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen we Safonau’r Siarter Teithio Llesol neu cofrestrwch drwy anfon e-bost at: [email protected].

Mae’r Safonau yn addas ar gyfer sefydliadau sy’n newydd i’r Siarter ac ar gyfer llofnodwyr presennol sy’n dymuno adeiladu ar eu cyflawniadau. Nid ydynt yn newid y gofynion ar gyfer sefydliadau sydd eisoes wedi ymrwymo i Siarter ranbarthol gyfredol neu un a lansiwyd yn ddiweddar.

Sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn defnyddio byd natur i gefnogi llesiant staff

Hywel Dda University Health Board logo

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn cefnogi staff ac yn lleihau diffygiad gyda’i Raglen Ymadfer ym Myd Natur.

Trwy gyfuno amser ym myd natur, ymyriadau therapiwtig, addysg am iechyd meddwl a gweithgareddau llesiant dan arweiniad, mae’r rhaglen wedi dangos buddion clir i lesiant staff.

Rhannodd un cyfranogwr:

“Roedd hwn yn brofiad gwirioneddol bleserus a buddiol ac un y byddwn yn ei argymell o galon i eraill.”

Darllenwch y stori lawn ar ein gwefan ac archwilio straeon llwyddiant eraill.

Os hoffech chi ddechrau cysylltu â byd natur yn eich gweithle, mae ein Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle newydd yn fan cychwyn gwych!

Os oes gennych chi stori i’w rhannu, dywedwch wrthon ni ac ysbrydoli cyflogwyr eraill ledled Cymru!

Dyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol sydd ar ddod

Awst 2026

Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd (01-07 Awst)

Dysgwch sut y gall eich sefydliad ddefnyddio Wythnos Fyd-eang Bwydo ar y Fron i godi ymwybyddiaeth, cefnogi gweithwyr sy’n bwydo ar y fron a hyrwyddo gweithle sy’n croesawu bwydo ar y fron.

Dysgwch fwy am Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd

Diwrnod Beicio i’r Gwaith (06 Awst)

Hyrwyddwch fanteision teithio llesol ac anogwch weithwyr i seiclo i’r gwaith gan ddefnyddio ein hadnoddau a’n syniadau.

Dysgwch fwy am Ddiwrnod Beicio i’r Gwaith

Gweithdy Camau Cyntaf CIW (06 Awst)

Ymunwch â Cymru Iach ar Waith ar gyfer gweithdy ymarferol i’ch helpu i gymryd eich camau cyntaf tuag at wella iechyd a llesiant yn y gweithle.

Cofrestrwch i fynychu

Medi 2026

Wythnos Ryngwladol Hapusrwydd yn y Gwaith (21 -25 Medi)

Wythnos Addysgwyr Oedolion (21-27 Medi)

Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid (21-27 Medi)

Bore Coffi Macmillan (25 Medi)

Gallwch ddod o hyd i weddill ymgyrchoedd y flwyddyn ar ein gwefan.