Skip to content

Gweithio o bell

Dysgwch am weithio o bell, ei effeithiau ar iechyd a llesiant, cyfrifoldebau cyflogwyr a sut i gefnogi gweithwyr sy'n gweithio o bell.

Neidio'r tabl cynnwys

Cwrdd â chyfrifoldebau cyfreithiol

Iechyd a diogelwch

Mae gan gyflogwyr yr un ddyletswydd gofal (Saesneg yn unig) i weithwyr sy’n gweithio o bell â’r rhai sy’n gweithio ar y safle. Mae hyn yn cynnwys sicrhau eu hiechyd, eu diogelwch a’u llesiant ble bynnag y maent yn gweithio.

Dylech:

  • Asesu risgiau sy’n gysylltiedig â gweithio gartref
  • Darparu offer ac arweiniad priodol
  • Sicrhau bod gweithwyr yn gwybod sut i weithio’n ddiogel

Ewch i wefan yr HSE i gael arweiniad ar reoli iechyd a diogelwch y rhai sy’n gweithio gartref (Saesneg yn unig).

Darganfyddwch fwy am iechyd a diogelwch yn y gweithle.

Gweithio hyblyg

Mae gweithio o bell yn un math o weithio hyblyg. Mae gan weithwyr yr hawl i ofyn am weithio’n hyblyg o’r diwrnod cyntaf o gyflogaeth, gan gynnwys trefniadau gweithio o bell neu weithio hybrid.

Rhaid i gyflogwyr:

  • Ystyried ceisiadau yn rhesymol
  • Ymateb o fewn yr amserlen ofynnol
  • Cydbwyso anghenion gweithwyr â gofynion busnes

Mae Busnes Cymru yn cynnig cyngor ar gefnogi gweithio llwyddiannus o bell a gallwch hefyd ymweld â gwefan ACAS i gael rhagor o wybodaeth am geisiadau gweithio hyblyg (Saesneg yn unig).

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Gorffennaf 2026