Skip to content

Gweithio o bell

Dysgwch am weithio o bell, ei effeithiau ar iechyd a llesiant, cyfrifoldebau cyflogwyr a sut i gefnogi gweithwyr sy'n gweithio o bell.

Neidio'r tabl cynnwys

Buddion gweithio o bell

Gall cefnogi gweithio o bell yn effeithiol fod o fudd i sefydliadau a gweithwyr.

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan CIPD (Saesneg yn unig) yn dangos bod pobl yn perfformio orau pan fyddant yn teimlo bod gan eraill ffydd ynddynt, eu bod yn cael eu cefnogi ac yn gallu cydbwyso gwaith ag agweddau eraill ar fywyd. Gall gweithio o bell helpu i greu’r amodau ar gyfer hyn.

Canfu Astudiaeth Gweithio o Bell a Hybrid Cynhwysol 2023 (Saesneg yn unig) fod gweithio o bell a hybrid yn rhoi hwb i iechyd a chynhyrchiant gweithwyr anabl.

Buddion i gyflogwyr

Gwell cynhyrchiant a ffocws

Gall gweithio o bell gefnogi gwaith canolbwyntio trwy leihau elfennau sy’n tynnu sylw a galluogi gweithwyr i reoli eu hamser yn effeithiol.

Cadw a denu talent

Gall cynnig gweithio o bell helpu i gadw staff medrus a denu gweithlu ehangach, mwy amrywiol, gan gynnwys pobl ag anableddau neu gyfrifoldebau gofalu.

Llai o gostau a mwy o wydnwch

Gall llai o ddibyniaeth ar weithleoedd corfforol leihau gorbenion a chefnogi parhad busnes yn ystod achosion o darfu.

Diwylliant cynhwysol cryfach

Gall gweithio o bell gael gwared ar rwystrau sy’n gysylltiedig â lleoliad, gan helpu i greu gweithle mwy hygyrch a theg.

Dyscwch fwy am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith.

Buddion i weithwyr

Gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Gall llai o gymudo a mwy o hyblygrwydd mewn arferion dyddiol gefnogi llesiant a lleihau straen.

Dysgwch fwy am weithio hyblyg.

Mwy o ymreolaeth a boddhad swydd

Gall cael mwy o reolaeth dros sut mae gwaith yn cael ei wneud gynyddu cymhelliant ac ymgysylltiad.

Llesiant ariannol

Gall llai o gostau teithio a chostau dyddiol leddfu pwysau ariannol.

Dysgwch fwy am llesiant ariannol.

Gwell mynediad at waith

Gall gweithio o bell ehangu cyfleoedd i bobl a allai wynebu rhwystrau i weithleoedd traddodiadol.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Gorffennaf 2026