Iechyd a llesiant menywod yn y gweithle
Dysgwch pam mae iechyd menywod yn bwysig yn y gweithle a darganfyddwch ffyrdd o gefnogi lles, cynhwysiant, a chyfartaledd yn y gwaith.
Cyflawni cyfrifoldebau cyfreithiol
Mae cefnogi iechyd menywod yn rhan bwysig o greu gweithle iach, teg a chynhwysol.
Mae gan gyflogwyr gyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch i amddiffyn iechyd, diogelwch a llesiant eu gweithwyr.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (Saesneg yn unig) yn amddiffyn gweithwyr rhag gwahaniaethu ar sail nodweddion gwarchodedig fel rhyw, beichiogrwydd, mamolaeth ac, mewn rhai achosion, anabledd. Gall rhai cyflyrau iechyd fodloni’r diffiniad cyfreithiol o anabledd, gan ddibynnu ar eu heffaith a’u hyd.
Gall hyn gynnwys cyflyrau fel:
- Endometriosis
- Symptomau difrifol y menopos
- Canser
- Cyflyrau iechyd meddwl hirdymor
- Cymhlethdodau penodol sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd
Efallai y bydd gan gyflogwyr ddyletswydd i ystyried addasiadau rhesymol i helpu gweithwyr i aros yn iach, i barhau i fod yn gynhyrchiol ac i barhau i ymgysylltu yn y gwaith.
Mae canllawiau pellach ar gael gan ACAS (Saesneg yn unig) ar famolaeth, y menopos, gweithio hyblyg a chydraddoldeb yn y gweithle.
Dylai cyflogwyr hefyd sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i ddeddfwriaeth cyflogaeth a chydraddoldeb.
Dysgwch ragor am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24th Tachwedd 2026