Iechyd a llesiant menywod yn y gweithle
Dysgwch pam mae iechyd menywod yn bwysig yn y gweithle a darganfyddwch ffyrdd o gefnogi lles, cynhwysiant, a chyfartaledd yn y gwaith.
Pwysigrwydd cefnogi iechyd menywod yn y gwaith
Mae menywod yn rhan sylweddol o’r gweithlu yng Nghymru. Gall problemau iechyd mewn cyfnodau gwahanol o fywyd effeithio ar bresenoldeb, llesiant a pherfformiad yn y gwaith.
Gall cyflogwyr sy’n darparu cymorth helpu gweithwyr i aros yn iach, aros yn y gwaith a pherfformio ar eu gorau.
Manteision i weithwyr
Gall cefnogi iechyd menywod yn y gwaith helpu i:
- Gwella llesiant ac ansawdd bywyd
- Annog pobl i geisio cymorth yn gynnar a gofalu am eu hiechyd
- Cynyddu hyder i drafod pryderon iechyd ac anghenion cymorth
- Hyrwyddo cynhwysiant, cydraddoldeb a diwylliant cefnogol yn y gweithle
- Cefnogi datblygiad a dilyniant gyrfa
Manteision i gyflogwyr
Gall cefnogi iechyd menywod yn y gwaith helpu i:
- Cynyddu ymgysylltiad, cymhelliant a chynhyrchiant gweithwyr
- Cefnogi recriwtio, cadw a datblygu talent
- Lleihau absenoldeb salwch a phresenoliaeth
- Cefnogi perfformiad busnes drwy weithlu iach
- Cyflawni cyfrifoldebau cyfreithiol dros gydraddoldeb, llesiant, ac iechyd a diogelwch
- Datblygu diwylliant gweithle cadarnhaol ac enw da i gyflogwyr
I’w nodi:
Nid yw’r dudalen bwnc hon wedi’i bwriadu i fod yn ganllaw cyflawn i iechyd menywod. Mae’n tynnu sylw at feysydd allweddol lle gall cyflogwyr gefnogi gweithwyr a chreu gweithleoedd iachach.
Gall rhywfaint o’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y pwnc fod yn berthnasol i weithwyr trawsryweddol ac anneuaidd hefyd.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24th Tachwedd 2026