Iechyd a llesiant dynion yn y gweithle
Dysgwch sut y gall cefnogi iechyd dynion fod o fudd i weithleoedd, a darganfyddwch ffyrdd y gall cyflogwyr gefnogi iechyd a lles dynion yn y gweithle.
Deall iechyd dynion
Mae iechyd dynion yn cynnwys ffactorau corfforol, meddyliol a chymdeithasol a all effeithio ar iechyd a llesiant drwy gydol oes.
Gall cyflyrau iechyd a digwyddiadau bywyd effeithio ar bresenoldeb, perfformiad, hyder a phrofiad yn y gwaith.
Gall codi ymwybyddiaeth o’r materion hyn helpu cyflogwyr i greu gweithleoedd cefnogol lle mae dynion yn teimlo’n gyfforddus yn siarad am eu hiechyd ac yn ceisio cymorth pan fydd ei angen arnynt.
Sgrinio a gofal iechyd ataliol
Sgrinio Anewrysm Aortig yn yr Abdomen (AAA)
Mae sgrinio AAA yn chwilio am chwydd (anewrysm) yn aorta’r abdomen. Nod rhaglen sgrinio AAA yw lleihau nifer yr achosion o AAA sydd wedi rhwygo a’r marwolaethau yn eu sgil yng Nghymru.
Yng Nghymru, gwahoddir dynion 65 oed i gael eu sgrinio os ydynt wedi’u cofrestru fel rhai sy’n byw yn y wlad.
Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am ragor o wybodaeth am sgrinio AAA.
Sgrinio’r coluddyn
Yn helpu i ganfod canser y coluddyn yn gynnar, yn aml cyn i symptomau ddatblygu, pan fydd triniaeth yn fwy tebygol o fod yn effeithiol. Mae’r prawf sgrinio yn chwilio am waed cudd mewn sampl carthion, a all fod yn arwydd o ganser y coluddyn neu newidiadau yn y coluddyn y gallai fod angen ymchwilio ymhellach iddynt.
Yng Nghymru, mae pobl rhwng 50 a 74 oed yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn profion sgrinio’r coluddyn bob dwy flynedd.
Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am ragor o wybodaeth am sgrinio’r coluddyn.
Canserau dynion
Dim ond yn y system atgenhedlu gwrywaidd y mae rhai mathau o ganser yn datblygu, gan gynnwys canser y ceilliau, y prostad a’r pidyn.
Gall canfod y canserau hyn yn gynnar, cael mynediad at driniaeth ac arferion cefnogol yn y gweithle helpu gweithwyr i reoli diagnosis, triniaeth a pharhau i ymgysylltu â’r gwaith lle y bo’n briodol.
Dylai cyflogwyr a rheolwyr gefnogi gweithwyr i fynychu apwyntiadau, cael mynediad at driniaeth a thrafod eu hanghenion.
Dysgwch ragor am y canlynol:
Iechyd meddwl a llesiant
Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar weithwyr o bob rhywedd. Fodd bynnag, gall disgwyliadau cymdeithasol, normau diwylliannol a stigma ei gwneud hi’n anoddach i ddynion gydnabod pryd maen nhw angen cymorth neu’n teimlo eu bod nhw’n gallu ceisio cymorth.
Gall cyflogwyr chwarae rhan bwysig drwy greu diwylliant yn y gweithle lle mae pobl yn teimlo’n gyfforddus yn siarad am iechyd meddwl, lleihau stigma a gwneud cymorth yn hawdd ei gael.
Rhagor o wybodaeth am iechyd meddwl a llesiant yn y gwaith.
Atal hunanladdiad
Hunanladdiad yw un o brif achosion marwolaeth ymhlith oedolion o dan 50 oed. Mae’n bryder iechyd y cyhoedd sylweddol, yn enwedig ymhlith dynion. Anaml y bydd un rheswm pam fo rhywun yn marw trwy hunanladdiad, ac mae’r ffactorau sy’n arwain at hunanladdiad yn gymhleth.
Gall perthnasoedd cefnogol yn y gweithle, adnabod arwyddion o ofid a gwybod sut i ymateb a chyfeirio at gymorth priodol wneud gwahaniaeth.
Mae data o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos y canlynol:
- Mae cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru yn uwch nag mewn rhannau eraill o’r DU
- Mae tua thri chwarter o farwolaethau trwy hunanladdiad yn digwydd ymhlith dynion
- Dynion rhwng 25 a 44 oed sydd â’r gyfradd hunanladdiad uchaf
- Mae dynion sy’n gweithio yn y galwedigaethau sgiliau isaf â risg uwch o hunanladdiad na chyfartaledd cenedlaethol dynion
Mae strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio Cymru yn cydnabod bod amrywiaeth o ffactorau sy’n effeithio ar risg, a hynny ar lefel unigol, grŵp a phoblogaeth, sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddull iechyd y cyhoedd gael ei ddefnyddio. Yr un mor bwysig, mae’r strategaeth hefyd yn cydnabod y ffactorau hynny a all helpu i leihau pa mor agored y mae person i ymddygiadau hunanladdol, a gall y rhain lywio dull cynhwysfawr, system-gyfan o waith ataliol.
Gall cyflogwyr chwarae rhan bwysig drwy hyrwyddo llesiant meddyliol, creu gweithleoedd cefnogol, a helpu gweithwyr i gael mynediad at gymorth pan fo’i angen arnynt.
Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, ffoniwch 111 a phwyso OPSIWN 2.
Os ydych chi’n poeni am rywun neu’n ei chael hi’n anodd ymdopi ac rydych chi angen siarad â rhywun, ffoniwch y Samariaid unrhyw bryd, o unrhyw ffôn AM DDIM: 116 123
Ôl-ymyrraeth hunanladdiad
Gall marwolaeth rhywun rydych chi’n ei adnabod trwy hunanladdiad effeithio’n ddwfn ar iechyd a llesiant. Gall achosi tristwch, straen a phryder. Efallai y bydd rhai pobl hyd yn oed yn meddwl am gyflawni hunanladdiad eu hunain.
Heb gefnogaeth, gall gweithwyr ei chael hi’n anodd bwrw ymlaen â’u gwaith neu deimlo’n ynysig.
Drwy greu amgylchedd gwaith tosturiol a deallgar, gall cyflogwyr helpu gweithwyr i lywio eu galar wrth gynnal sefydlogrwydd yn eu bywydau proffesiynol.
Ewch i’n tudalen pwnc cymorth hunanladdiad am ragor o wybodaeth.
Diabetes
Mae diabetes math 2 yn gyflwr hirdymor cyffredin a all gynyddu’r risg o ddatblygu problemau iechyd eraill.
Mae dynion yn fwy tebygol na menywod o ddatblygu diabetes math 2 yn iau a mynegai màs y corff (BMI) is. Mae hyn yn golygu ei bod yn arbennig o bwysig cynyddu ymwybyddiaeth o ffactorau risg, symptomau a chamau ataliol.
Gall cefnogi bwyta’n iach, gweithgarwch corfforol ac ymwybyddiaeth o symptomau a ffactorau risg helpu gweithwyr i gymryd camau i ddiogelu eu hiechyd.
Dysgwch ragor am gymorth ar gyfer diabetes i weithwyr.
Iechyd cardiofasgwlaidd
Mae cyflyrau fel clefyd y galon, strôc a phwysedd gwaed uchel yn brif achosion afiechyd.
Mae dynion yn tueddu i ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd yn iau na menywod, sy’n pwysleisio pwysigrwydd cydnabod ffactorau risg fel pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel ac ysmygu, a chymryd camau ataliol.
Gall cyflogwyr gefnogi iechyd y galon drwy annog gweithgarwch corfforol, ffyrdd o fyw iachach a chyfleoedd i weithwyr fynd i archwiliadau iechyd.
Niwed sy’n gysylltiedig â gamblo
Mae dynion yn fwy tebygol na menywod o gymryd rhan mewn rhai mathau o gamblo risg uwch a phrofi niwed sy’n gysylltiedig â gamblo, a all effeithio ar eu hiechyd meddwl, eu harian, eu perthnasoedd a’u llesiant.
Gall cyflogwyr helpu drwy godi ymwybyddiaeth, lleihau stigma a sicrhau bod gweithwyr yn gwybod ble y gallant gael mynediad at gymorth cyfrinachol.
Dysgwch ragor am niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yn y gweithle.
Heneiddio’n Iach
Mae heneiddio’n iach yn golygu aros yn iach yn gorfforol, yn feddyliol ac yn gymdeithasol wrth i ni heneiddio.
Gall dynion brofi cyflyrau iechyd corfforol a meddyliol wrth iddynt heneiddio, gan gynnwys:
Gall cyflogwyr gefnogi heneiddio’n iach drwy hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a gofal iechyd ataliol.
Dysgwch ragor am:
- Bwyta’n iach
- Bod yn egnïol
- Cymorth gyda diabetes i weithwyr
- Iechyd a llesiant meddyliol yn y gwaith
- Gorbryder yn y gweithle
- Iselder yn y gweithle
- Lludded a blinder yn y gweithle
- Iechyd cyhyrysgerbydol yn y gweithle
- Cefnogi gweithwyr hŷn yn y gweithle
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25th Tachwedd 2026