Mai 2026

Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)

Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.

Y mis hwn:

  • Digwyddiadau CIW sydd ar ddod
  • Adnodd llesiant newydd ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl yng Nghymru
  • Sesiwn Ymwybyddiaeth o Sgrinio GIG Cymru
  • Ysbrydoli gweithlu mwy egnïol yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Dyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol sydd ar ddod

Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.

Digwyddiadau CIW sydd ar ddod

Llun agos o gydweithwyr yn edrych ar liniadur ar ddesg, mae un ohonyn nhw’n pwyntio at y sgrin.

Ymunwch â’n peilot Gweithdy Camau Cyntaf Llesiant yn y Gweithle Newydd

Rydym yn gwahodd grŵp bach o gyflogwyr i gymryd rhan mewn gweithdy peilot cyffrous a gynlluniwyd i helpu sefydliadau i gymryd camau cyntaf ymarferol a chyraeddadwy tuag at wella llesiant yn y gweithle.

P’un a yw eich sefydliad newydd ddechrau ar ei daith llesiant neu wrthi’n ceisio rhoi mwy o strwythur i weithgarwch sydd eisoes yn bodoli, bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn eich helpu i nodi’r hyn sydd bwysicaf a throi syniadau yn gamau gweithredu realistig.

Yn ystod y gweithdy, bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle i wneud y canlynol:

  • Deall pam mae llesiant yn y gweithle yn bwysig
  • Myfyrio ar eu dull gweithredu presennol
  • Archwilio Pecyn Cychwynnol Cymru Iach ar Waith
  • Nodi blaenoriaeth llesiant ar gyfer eu sefydliad
  • Datblygu cynllun gweithredu 30 diwrnod sy’n syml a chyraeddadwy

Dyddiad: Dydd Iau 04 Mehefin 2026

Amser: 10:00 – 11:30

Lleoliad: Ar-lein drwy MS Teams

Pwy ddylai ddod i’r gweithdy hwn

Mae’r gweithdy wedi’i anelu at gyflogwyr, rheolwyr a’r rhai sydd â chyfrifoldeb am lesiant yn y gweithle.

Cofrestrwch yma (Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly rydyn ni’n eich annog i gofrestru’n gynnar).

Grŵp o bobl fusnes yn sefyll mewn ystafell yn sgwrsio.

Cymru Iach ar Waith yng Nghaerdydd

Ymunwch â ni am fore diddorol i gael gwybod y diweddaraf gan CIW, cael cyfle i siarad â Chynghorwyr CIW a chymryd rhan mewn gweithdy rhyngweithiol sy’n archwilio beth yw’r blaenoriaethau iechyd a llesiant allweddol yn eich gweithle.

Y manteision i chi:

  • Mynediad i gymorth Cymru Iach ar Waith am ddim
  • Cyfle i ofyn cwestiynau a rhannu mewnwelediadau
  • Cyfleoedd i rwydweithio

Dyddiad: 02 Gorffennaf 2026

Amser: 09:00 – 12:30

Lleoliad: Capital Quarter 2, Stryd Tyndall, Caerdydd CF10 4BZ

Mae’r digwyddiad hwn wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer cyflogwyr a rheolwyr llinell mewn busnesau bach a chanolig a sefydliadau yng Nghymru sydd â diddordeb mewn archwilio a defnyddio ein gwasanaethau.

Cofrestrwch i fynychu.

Gweminarau am ddim sydd ar ddod

Dau berson yn ysgwyd llaw yn y gwaith.

Deall a Rheoli Gwrthdaro yn y Gweithle – rhan dau

Bydd y weminar yn cael ei chyflwyno gan Louise Moore, Uwch Gynghorydd Busnes Acas, ac yn archwilio:

  • Cyfrifoldebau rheolwyr pan fydd gwrthdaro’n codi
  • Camgymeriadau cyffredin a all waethygu sefyllfaoedd
  • Dulliau arferion da o ddatrys gwrthdaro yn deg ac yn effeithiol
  • Enghreifftiau a mewnwelediadau go iawn i ddod â’r pwnc yn fyw
  • Offer, canllawiau a chefnogaeth gan Acas ar gael i gyflogwyr

Pryd: 18 Mehefin 2026

Amser: 10:00 – 11:00

Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)

Archebwch eich lle nawr!

Menyw yn gwisgo sbectol haul ac yn cario bag yn cerdded i’w gwaith ar hyd llwybr golygfaol ger adeilad swyddfa modern.

Cysylltu â byd natur yn y gwaith

Ymunwch â’r weminar rad ac am ddim hon a lansiad Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle a gyflwynir mewn cydweithrediad ag RSPB Cymru.

Cynnwys y weminar hon:

  • Lansio Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle
  • Manteision cysylltu â byd natur i weithleoedd
  • Cipolwg ar sut i ddefnyddio’r calendr yn eich gweithle chi
  • Sut i gael mynediad at adnoddau

Dyddiad: Dydd Mercher 08 Gorffennaf 2026

Amser: 10:00 – 11:00

Platfform: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)

Archebwch eich lle nawr!

Person yn teipio ar gyfrifiadur.

Adnodd llesiant newydd ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl yng Nghymru

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi lansio Ffordd, hwb llesiant digidol ar gyfer y gweithlu iechyd meddwl.

Mae’n dwyn ynghyd offer ymarferol, canllawiau ac adnoddau mewn un lle, ochr yn ochr â mynediad at wasanaethau cymorth lleol a chenedlaethol pan fydd eu hangen.

Wedi’i ddatblygu gyda’r gweithlu, mae Ffordd wedi’i gynllunio i gefnogi staff ar bob cam o’u gyrfa, trwy eu helpu i fyfyrio, gwella ac aros yn iach mewn swyddi a all fod yn heriol yn emosiynol.

Archwilio’r hwb a chael mynediad at offer, hyfforddiant a chymorth.

Sesiwn Ymwybyddiaeth o Sgrinio GIG Cymru

Logo Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae dyddiadau newydd ar gael ar gyfer Sesiynau Ymwybyddiaeth o Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddeall rhaglenni sgrinio GIG Cymru a sut allwch chi gefnogi ymwybyddiaeth yn eich gweithle a’r gymuned ehangach.

  • Dydd Gwener 22 Mai 2026, 09:30-12:30
  • Dydd Mawrth 09 Mehefin 2026, 09:30-12:30
  • Dydd Mercher 24 Mehefin 2026, 09:30-12:30

Ewch i’r tudalennau gwe Hyfforddiant ac Addysg Gymunedol i drefnu lle ar sesiwn.

Gallwch hefyd rannu gwybodaeth am sgrinio yn eich gweithle trwy ddefnyddio’r adnoddau am ddim hyn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

I ofyn am adnoddau printiedig, anfonwch e-bost i: [email protected].

Ysbrydoli gweithlu mwy egnïol yn BIPCTM

Logo CTMUHB

Mae mis Mai yn Fis Cerdded Cenedlaethol, sy’n golygu mai dyma’r amser perffaith i feddwl am sut allwch chi annog mwy o symudiad yn eich gweithle.

Yn BIPCTM, mae’r hyn a ddechreuodd fel her flynyddol syml wedi tyfu o flwyddyn i flwyddyn ers 2023. Mae mwy na 2,000 o staff bellach wedi cymryd rhan, gan gerdded gyda’i gilydd yr hyn sy’n cyfateb i dros 17 o deithiau o amgylch y byd.

Dywedodd un o’r cyfranogwyr:

“Roeddwn i’n teimlo bod yr her yn hynod gadarnhaol o ran cynyddu fy lefelau gweithgarwch fy hun a blaenoriaethu amser i symud.”

Mae eu llwyddiant yn dangos nad oes angen cynllun mawr na chymhleth i wneud gwahaniaeth. Gall gweithgareddau syml, sy’n seiliedig ar dîm, gael effaith go iawn ar lesiant a lefelau gweithgarwch staff.

Y mis hwn, cymerwch eiliad i feddwl am yr hyn a allai weithio yn eich sefydliad chi. Pa un newid bach y gallech chi ei gyflwyno i helpu pobl i symud mwy?

Darllenwch y stori lawn ar ein gwefan i gael ysbrydoliaeth a chysylltu â’n cynghorwyr i’ch helpu i ddechrau arni.

Os oes gennych chi stori i’w rhannu, dywedwch wrthon ni ac ysbrydoli cyflogwyr eraill ledled Cymru!

Dyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol sydd ar ddod

Mehefin 2026

CIW Llesiant yn y Gweithle Camau Cyntaf Gweithdy peilot (04 Mehefin 2026)

Ymunwch â’n gweithdy peilot i gael cyngor ymarferol ar gefnogi iechyd a llesiant yn eich gweithle.

Cofrestrwch i fynychu

Wythnos Iechyd Dynion (08 – 14 Mehefin 2026)

Darganfyddwch sut allwch chi greu gweithle lle mae dynion yn teimlo eu bod nhw’n gallu siarad a chymryd camau i wella eu hiechyd.

Dysgwch fwy am Wythnos Iechyd Dynion

Wythnos y Gofalwyr (08-14 Mehefin 2026)

Dysgwch sut y gall cyflogwyr godi ymwybyddiaeth o ofalu, cefnogi gweithwyr sy’n ofalwyr di-dâl a rhannu gwybodaeth ac adnoddau am ofalu.

Dysgwch fwy am Wythnos y Gofalwyr (Saesneg yn unig)

Diwrnod Aer Glân (18 Mehefin 2026)

Dysgwch am fynd i’r afael â llygredd aer a chreu gweithle glanach ac iachach i’ch gweithwyr.

Dysgwch fwy am Diwrnod Aer Glân

Gweminar Deall a Rheoli Gwrthdaro yn y Gweithle – rhan dau (18 Mehefin 2026)

Cofrestrwch i ymuno ag ail ran ein gweminar ar ddeall a rheoli gwrthdaro yn y gweithle.

Cofrestrwch i fynychu

Gorffennaf 2026

Gorffennaf di Blastig (01-31 Gorffennaf 2026)

Cymru Iach ar Waith yng Nghaerdydd (02 Gorffennaf 2026)

Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol (06-12 Gorffennaf 2026)

Wythnos Natur Cymru (06-12 Gorffennaf 2026)

Gweminar cysylltu â byd natur yn y gwaith (08 Gorffennaf 2026)

Gallwch ddod o hyd i weddill ymgyrchoedd y flwyddyn ar ein gwefan.