Skip to content

Iselder yn y gweithle

Dysgwch sut i adnabod a chefnogi gweithwyr ag iselder.

Neidio'r tabl cynnwys

Deall iselder

Hwyliau isel yw iselder sy’n gallu para amser hir neu barhau i ddychwelyd, gan effeithio ar fywyd pob dydd.

Mae yna lawer o arwyddion a symptomau iselder. Bydd profiad pawb yn wahanol.

Mae rhai arwyddion cyffredin o iselder:

  • Teimlo’n isel, yn ddigalon neu’n ddagreuol
  • Methu cael pleser o fywyd neu bethau rydych fel arfer yn eu mwynhau
  • Teimlo’n ddiobaith a thruenus
  • Teimlo’n flinedig trwy’r amser

Mae’n gyffredin iawn cael iselder a gorbryder gyda’i gilydd.

Gallwch ddysgu mwy ar wefan GIG 111 Cymru.

Achosion iselder

Nid oes un peth sy’n achosi iselder.

Weithiau mae rhywbeth yn sbarduno iselder. Gall digwyddiadau sy’n newid bywydau, fel profedigaeth neu ddigwyddiad sy’n achosi llawer o straen, arwain at iselder.

Gall gwahanol achosion yn aml gyfuno i sbarduno iselder. Yn aml, mae straen sy’n gysylltiedig â gwaith a phroblemau iechyd meddwl yn mynd law yn llaw a gall y symptomau fod yn debyg iawn.

Gwybodaeth:

Am gymorth iechyd meddwl brys ffoniwch 111 a gwasgwch OPSIWN 2.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 29th Mai 2026