Skip to content

Dull rhagweithiol Admiral o reoli straen yn y gwaith

Drwy ddarparu dull rhagweithiol o reoli straen, mae Admiral wedi cefnogi cydweithwyr i newid eu meddylfryd gyda sgiliau ac offer sy’n eu grymuso i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac ymdopi â sefyllfaoedd pwysau uchel.

Ynglŷn ag Admiral

Mae Admiral yn cyflogi dros 11,000 o gydweithwyr yn y DU a dyma’r unig gwmni FTSE100 sydd â’i bencadlys yng Nghymru. Sefydlwyd Admiral ym 1993 ac mae’n grŵp gwasanaethau ariannol rhyngwladol gyda chwsmeriaid yn Ffrainc, yr Eidal, Sbaen a’r DU.

Mae Admiral yn ymfalchïo mewn bod yn Lle Gwych i Weithio ac yn rhoi blaenoriaeth uchel i gefnogi iechyd, diogelwch a llesiant cydweithwyr. Mae’r busnes bob amser yn ymdrechu i wella ei dull rhagweithiol ynghylch pynciau iechyd a llesiant er mwyn creu gweithle lle mae cydweithwyr yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i reoli eu llesiant – cefnogi eu hiechyd meddwl, eu hapusrwydd a’u perfformiad.

Mae dull Admiral yn seiliedig ar bum prif piler llesiant yn y gweithle; iechyd da, gwaith da, perthnasoedd da, adnoddau da a diwylliant da.

Yr her

Nod Admiral yw cefnogi a darparu’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gydweithwyr i reoli eu hiechyd meddwl yn y gweithle a thu allan i’r gweithle.

Cydnabu Paul Billington, Uwch Bartner Pobl ar gyfer Iechyd a Llesiant yn y busnes yn y DU, yr angen cynyddol i gymryd camau mwy rhagweithiol i gefnogi iechyd meddwl a llesiant cydweithwyr.

Beth wnaeth Admiral?

Mae cymorth adweithiol ac yn y funud Admiral yn eang; mae’n cynnwys cwnsela sy’n seiliedig ar ddatrysiadau, y Rhaglen Cymorth i Weithwyr a Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Gall cydweithwyr hefyd gael mynediad at adnoddau ymarferol drwy wefan fewnrwyd bwrpasol, sy’n cwmpasu iechyd meddwl, iechyd corfforol, niwroamrywiaeth, llesiant ariannol, addasiadau yn y gweithle a chyfarpar sgrin arddangos, hyfforddi ac annog, a datblygu. Mae hyn yn cael ei ategu gan raglenni wedi’u targedu a phartneriaethau â darparwyr allanol.

I gefnogi’r cynnig eang hwn, mae Admiral hefyd wedi datblygu strategaeth ataliol sy’n cael ei hategu gan eu “Model Cynaliadwyedd Dynol”. Drwy adeiladu llwybrau at ddatrysiadau ataliol a chefnogi cydweithwyr gydag adnoddau defnyddiol, maent yn paratoi cydweithwyr ar gyfer heriau ym mhob cam o’u bywydau; yn y gweithle a thu hwnt.

Er enghraifft, bu Admiral yn gweithio gydag arbenigwr allanol i feithrin cydbwysedd emosiynol a sgiliau gwybyddol eraill i gyflwyno’r rhaglen ‘Hyfforddi Eich Meddwl’, a oedd yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:

Sesiwn 1 – Cyflwyniad: Hyfforddi’r Meddwl ac Ail-lunio Gwybyddol

  • Yn cynnig strategaethau i leihau meddyliau diwerth, meithrin cadernid yn ystod ansicrwydd a hyrwyddo llesiant bob dydd.

Sesiwn 2 – Meithrin Dewrder a Gollwng Gafael

  • Yn hyrwyddo derbyn yr hyn na ellir ei newid
  • Lleihau straen
  • Meithrin cadernid yn y gwaith
  • Annog gweithredu cadarnhaol ar gyfer gwell cydbwysedd emosiynol.

Sesiwn 3 – Llywio Gorweithio a Ffiniau Iach

  • Yn canfod arwyddion cynnar o orweithio ac yn cynnig cyngor ar sut i atal hyn
  • Cynghori gosod ffiniau i gynnal egni a ffocws
  • Hyrwyddo cydbwysedd gwaith-bywyd a rheoli straen ar gyfer llesiant parhaus.

Sesiwn 4 – Llywio Emosiynau Anodd: Canllaw Ymarferol

  • Yn darparu ffyrdd o reoli emosiynau, lleihau bod yn fyrbwyll, ac ymateb yn dawel o dan straen
  • Yn cefnogi sefydlogrwydd emosiynol ac eglurder meddyliol ar gyfer cysylltiadau gwell.

Cafodd pob cydweithiwr gyfle i fynd i’r gyfres o weminarau a ddatblygwyd, ac mae recordiadau’n parhau i fod ar gael ar ein mewnrwyd i’r rhai sy’n dymuno cael mynediad at y deunydd.

Y canlyniadau

Dechreuodd y rhaglen fel cyfres o weminarau ac roedd yn un o’r rhaglenni llesiant mwyaf llwyddiannus i Admiral gynnal ar gyfer eu cydweithwyr. Ar hyn o bryd mae’n cael ei ddatblygu i fod yn gwrs ffurfiol i bawb o fewn busnes Admiral yn y DU .

Mae darparu dull rhagweithiol o ymdrin â straen wedi galluogi cydweithwyr i newid eu meddylfryd a datblygu eu sgiliau a’u hadnoddau eu hunain i gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac ymdopi â sefyllfaoedd pwysau uchel cystal ag y gallant. Yn bwysicach fyth, mae’n helpu i ymdrin â bywyd yn gyffredinol gyda’r fframwaith a’r offer cywir sydd ddim yn gyfyng i’r gweithle yn unig.

Paul Billington

Wrth fyfyrio ar y gwaith y mae Admiral wedi’i wneud hyd yma, meddai Paul:

“Nid yw buddsoddi’n rhagweithiol mewn llesiant meddyliol yn ymwneud â chreu gweithle iachach yn unig—mae’n ymwneud â rhoi’r adnoddau i bobl y gallant eu defnyddio mewn sawl agwedd ar eu bywydau. Pan fyddwn yn blaenoriaethu iechyd meddwl yn gynnar, byddwn yn meithrin gwydnwch, yn datgloi potensial ac yn cefnogi ein hymrwymiad cyffredin i fodel gwaith cynaliadwyedd dynol.”

Cyngor i gyflogwyr eraill

Dyma brif argymhellion Paul Billington i sefydliadau eraill:

  • Dylunio dull sy’n canolbwyntio ar gydweithwyr ac sy’n seiliedig ar eu hanghenion
  • Darparu dull rhagweithiol sy’n cynorthwyo iechyd meddwl a lles cydweithwyr nawr, ac ar gyfer y dyfodol
  • Meithrin diwylliant gonest ac ymgorffori’r ffocws hwn ym mhob agwedd ar datganiad y gweithiwr o bolisïau, hyfforddiant, perthnasoedd a ffyrdd o weithio.

Adnoddau i gyflogwyr