Awst 2026

Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.

Y mis hwn:

  • Adnoddau newydd i gefnogi gweithwyr ifanc
  • Pecyn Cymorth Newydd ar gyfer Bwydo ar y Fron yn y Gweithle
  • Sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi bwydo ar y fron yn y gwaith
  • Digwyddiadau CIW
  • Bathodynnau Cydnabyddiaeth CIW
  • Adroddiad Blynyddol Cymru Iach ar Waith 2025-26
  • Sgiliau cynaliadwyedd ar gyfer gweithle sy’n barod ar gyfer y dyfodol
  • Dyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol sydd ar ddod

Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.

Adnoddau newydd i gefnogi gweithwyr ifanc

Ydych chi’n cyflogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, neu’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n paratoi ar gyfer y byd cyflogaeth?

Rydym wedi lansio ystod o adnoddau newydd a gynlluniwyd i gynorthwyo gweithwyr ifanc wrth iddynt ddechrau yn y byd gwaith, ac ymdopi â’r byd hwnnw.

Mae’r adnoddau hyn sydd wedi’u datblygu gan bobl ifanc a chyflogwyr yn darparu cyngor ymarferol sy’n berthnasol ac wedi’i seilio ar brofiadau bywyd go iawn.

Mae ein canllaw Cefnogi Pobl Ifanc yn y Gwaith i gyflogwyr yn cynnig canllawiau ymarferol ar sut i gefnogi, ymgysylltu a chael y gorau allan o weithwyr ifanc, gan helpu i greu gweithleoedd cadarnhaol a chynhwysol lle gall pobl ifanc ffynnu.

Nod Ffynnu yn y Gwaith, Canllaw i Berson Ifanc, yw cefnogi pobl ifanc wrth iddynt symud o addysg i gyflogaeth, gan gynnig cyngor clir ac ymarferol ar ystod o bynciau sy’n cynnwys diwylliant y gweithle, diogelwch seicolegol a’r sgiliau meddal sydd eu hangen i lwyddo yn y gwaith.

Mae ein gweithdai ‘Parod, Ymbaratoi, Ffynnu’ yn cynnig cyfle i bobl ifanc gael cyngor ac arweiniad ymarferol i’w helpu i baratoi ar gyfer bywyd gwaith a ffynnu yn y gweithle.

Os oes gennych chi weithwyr rhwng 16 a 24 oed sy’n newydd i’r gweithle neu os ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n paratoi ar gyfer eu swydd gyntaf, anogwch nhw i archebu lle.

Llun agos o gydweithwyr yn edrych ar liniadur ar ddesg, mae un ohonyn nhw’n pwyntio at y sgrin.

Gweminarau i ddod

  • 29 Medi, 10:30 – 12:00
  • 26 Tachwedd 2026, 1:30 – 3:00
  • 25 Chwefror 2027, 10:00 – 11:30

Dysgwch fwy, gan gynnwys sut i gofrestru.

Pecyn Cymorth Newydd ar gyfer Bwydo ar y Fron yn y Gweithle

Menyw yn bwydo ei babi ar y fron.

Rydym wedi lansio pecyn cymorth newydd ar gyfer Bwydo ar y Fron yn y Gweithle i helpu cyflogwyr i greu amgylcheddau gweithle sy’n cefnogi mamau i barhau i fwydo ar y fron pan fyddant yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth.

Mae cefnogi gweithwyr i barhau i fwydo ar y fron yn fuddiol i deuluoedd a chyflogwyr. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall gweithleoedd sy’n ystyriol o fwydo ar y fron wneud yn well o ran cadw staff, lleihau costau recriwtio ac ymgysylltu a chyfrannu at lefelau is o absenoldeb oherwydd salwch trwy gefnogi iechyd a llesiant mamau a babanod.

Mae’r pecyn cymorth yn darparu canllawiau ymarferol, adnoddau ac argymhellion arfer gorau i helpu sefydliadau i:

  • Ddeall eu cyfrifoldebau fel cyflogwyr
  • Cefnogi sgyrsiau rhwng rheolwyr a gweithwyr
  • Creu amgylcheddau gweithle sy’n ystyriol o fwydo ar y fron
  • Hyrwyddo lles, cynhwysiant a chyfraddau cadw gweithwyr

Datblygwyd yr adnodd hwn ar y cyd â phartneriaid gan gynnwys sefydliadau’r GIG, undebau llafur a’r trydydd sector. Gyda’n gilydd, rydym yn helpu i adeiladu gweithleoedd lle gall gweithwyr ddychwelyd i’r gwaith yn hyderus, gan wybod y bydd eu dewis i fwydo ar y fron yn cael ei barchu a’i gefnogi.

Gweler y pecyn cymorth a’n sgwrs pecyn cymorth

Byddai Cymru Iach ar Waith wrth ei fodd yn gweld sut rydych chi a’ch sefydliad yn defnyddio’r adnodd – cysylltwch â ni i rannu sut mae’r pecyn cymorth wedi eich helpu chi.

Sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi bwydo ar y fron yn y gwaith

Logo Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyflwynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ‘Y Nyth’, gofod llesiant pwrpasol sy’n cynnwys ardal i rieni ar gyfer bwydo ar y fron a thynnu llaeth o’r fron.

Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â rhwydweithiau staff a grwpiau gweithwyr, mae’n rhoi amgylchedd preifat a chyfforddus sy’n cefnogi anghenion rhianta a llesiant.

“Yn iechyd cyhoeddus cymru rydym am gefnogi pob teulu yng nghymru i fwydo ar y fron cyhyd ag y dymunant ac mae hynny’n dechrau gyda’n staff.”

Claire Birchall,Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd A Llywodraethu Integredig.

Darllenwch y stori lawn ar ein gwefan ac archwilio straeon llwyddiant eraill.

Digwyddiadau CIW am ddim sydd i ddod

Gweminar Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith

Ymunwch â’r gweminar rhad ac am ddim hwn a dysgwch yma Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith:

  • Deall beth yw’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith a pham mae ei angen
  • Pwy sy’n darparu’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith mewn gwahanol feysydd
  • Y gwasanaethau a’r gefnogaeth a ddarperir drwy Gymorth yn y Gwaith a rhai o’r llwyddiannau maen nhw wedi’u cael
  • Sut y gall cyflogwyr ac unigolion gysylltu â’u cymorth neu gael mynediad ato

Dyddiad: 07 Hydref 2026

Amser: 10:00 – 11:00

Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)

Cofrestrwch yma.

Gweithdai Camau Cyntaf CIW

Ydych chi’n newydd i iechyd a llesiant yn y gweithle, neu’n ansicr ble i ddechrau?

Mae ein gweithdai ymarferol, rhad ac am ddim, ‘Camau Cyntaf’, wedi’u cynllunio i helpu sefydliadau ledled Cymru i fwrw ati gyda hyder.

Drwy gymryd rhan byddwch hefyd yn gymwys i wneud cais am ein Bathodyn Cydnabyddiaeth Cyflogwr Gweithredol.

Cofrestrwch ar gyfer gweithdy sydd ar ddod:

08 Hydref 2026, 10:00 – 12:00

21 Ionawr 2027, 10:00 – 12:00

Cadwch y dyddiad – Digwyddiad Blynyddol Cymru Iach ar Waith

Gwnewch gofnod ar eich calendrau ar gyfer 12 Tachwedd 2026 ac ymunwch â ni yn ein digwyddiad blynyddol wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd.

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan.

Bathodynnau Cydnabyddiaeth CIW

Bathodyn Cydnabod Cyflogwr Gweithredol
Bathodyn Cydnabod Cyflogwr Blaenllaw

Mae’r Bathodynnau Cydnabyddiaeth Cymru Iach ar Waith (CIW) yn cydnabod cyflogwyr sy’n cymryd camau cadarnhaol i wella iechyd a llesiant yn y gweithle.

Darganfyddwch sut i ennill eich bathodyn.

Adroddiad Blynyddol Cymru Iach ar Waith 2025-26

Healthy Working Wales logo

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur a chyffrous i Gymru Iach ar Waith.

I gael gwybod rhagor am y ffordd rydym wedi cefnogi cyflogwyr ledled Cymru yn ystod 2025-26, gan gynnwys lansio gwasanaethau newydd, gweminarau am ddim, rhaglenni cymorth yn y gweithle ac adnoddau a ddyluniwyd i wella iechyd a llesiant gweithwyr.

Darllenwch Adroddiad Blynyddol Cymru Iach ar Waith 2025-26.

Sgiliau cynaliadwyedd ar gyfer gweithle sy’n barod ar gyfer y dyfodol

Llun agos o bobl yn sefyll mewn cylch gyda’i dwylo’n dal planhigyn yn y canol.

Ydych chi eisiau cryfhau gwybodaeth eich sefydliad am gynaliadwyedd? Mae amrywiaeth o gyrsiau cynaliadwyedd amgylcheddol ISEP a ariennir yn llawn ar gael ym mis Medi.

Maent yn cwmpasu:

  • Cynaliadwyedd i’r gweithlu a rheolwyr
  • Systemau rheoli amgylcheddol (EMS)
  • Archwilio amgylcheddol
  • Rheoli ynni a charbon
  • Mae cyrsiau ar gael ar-lein ac ar Gampws Gelli Aur, ac mae cyllid ar gael i ddysgwyr cymwys.

Dysgwch ragor ac archebwch eich lle drwy dudalen cwrs Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ISEP ar gyfer y Gweithlu.