Awst 2026
Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.
Y mis hwn:
- Adnoddau newydd i gefnogi gweithwyr ifanc
- Pecyn Cymorth Newydd ar gyfer Bwydo ar y Fron yn y Gweithle
- Sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi bwydo ar y fron yn y gwaith
- Digwyddiadau CIW
- Bathodynnau Cydnabyddiaeth CIW
- Adroddiad Blynyddol Cymru Iach ar Waith 2025-26
- Sgiliau cynaliadwyedd ar gyfer gweithle sy’n barod ar gyfer y dyfodol
- Dyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol sydd ar ddod
Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.
Adnoddau newydd i gefnogi gweithwyr ifanc
Ydych chi’n cyflogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, neu’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n paratoi ar gyfer y byd cyflogaeth?
Rydym wedi lansio ystod o adnoddau newydd a gynlluniwyd i gynorthwyo gweithwyr ifanc wrth iddynt ddechrau yn y byd gwaith, ac ymdopi â’r byd hwnnw.
Mae’r adnoddau hyn sydd wedi’u datblygu gan bobl ifanc a chyflogwyr yn darparu cyngor ymarferol sy’n berthnasol ac wedi’i seilio ar brofiadau bywyd go iawn.
Mae ein canllaw Cefnogi Pobl Ifanc yn y Gwaith i gyflogwyr yn cynnig canllawiau ymarferol ar sut i gefnogi, ymgysylltu a chael y gorau allan o weithwyr ifanc, gan helpu i greu gweithleoedd cadarnhaol a chynhwysol lle gall pobl ifanc ffynnu.
Nod Ffynnu yn y Gwaith, Canllaw i Berson Ifanc, yw cefnogi pobl ifanc wrth iddynt symud o addysg i gyflogaeth, gan gynnig cyngor clir ac ymarferol ar ystod o bynciau sy’n cynnwys diwylliant y gweithle, diogelwch seicolegol a’r sgiliau meddal sydd eu hangen i lwyddo yn y gwaith.
Mae ein gweithdai ‘Parod, Ymbaratoi, Ffynnu’ yn cynnig cyfle i bobl ifanc gael cyngor ac arweiniad ymarferol i’w helpu i baratoi ar gyfer bywyd gwaith a ffynnu yn y gweithle.
Os oes gennych chi weithwyr rhwng 16 a 24 oed sy’n newydd i’r gweithle neu os ydych chi’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n paratoi ar gyfer eu swydd gyntaf, anogwch nhw i archebu lle.

Gweminarau i ddod
- 29 Medi, 10:30 – 12:00
- 26 Tachwedd 2026, 1:30 – 3:00
- 25 Chwefror 2027, 10:00 – 11:30
Pecyn Cymorth Newydd ar gyfer Bwydo ar y Fron yn y Gweithle

Rydym wedi lansio pecyn cymorth newydd ar gyfer Bwydo ar y Fron yn y Gweithle i helpu cyflogwyr i greu amgylcheddau gweithle sy’n cefnogi mamau i barhau i fwydo ar y fron pan fyddant yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth.
Mae cefnogi gweithwyr i barhau i fwydo ar y fron yn fuddiol i deuluoedd a chyflogwyr. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall gweithleoedd sy’n ystyriol o fwydo ar y fron wneud yn well o ran cadw staff, lleihau costau recriwtio ac ymgysylltu a chyfrannu at lefelau is o absenoldeb oherwydd salwch trwy gefnogi iechyd a llesiant mamau a babanod.
Mae’r pecyn cymorth yn darparu canllawiau ymarferol, adnoddau ac argymhellion arfer gorau i helpu sefydliadau i:
- Ddeall eu cyfrifoldebau fel cyflogwyr
- Cefnogi sgyrsiau rhwng rheolwyr a gweithwyr
- Creu amgylcheddau gweithle sy’n ystyriol o fwydo ar y fron
- Hyrwyddo lles, cynhwysiant a chyfraddau cadw gweithwyr
Datblygwyd yr adnodd hwn ar y cyd â phartneriaid gan gynnwys sefydliadau’r GIG, undebau llafur a’r trydydd sector. Gyda’n gilydd, rydym yn helpu i adeiladu gweithleoedd lle gall gweithwyr ddychwelyd i’r gwaith yn hyderus, gan wybod y bydd eu dewis i fwydo ar y fron yn cael ei barchu a’i gefnogi.
Gweler y pecyn cymorth a’n sgwrs pecyn cymorth
Byddai Cymru Iach ar Waith wrth ei fodd yn gweld sut rydych chi a’ch sefydliad yn defnyddio’r adnodd – cysylltwch â ni i rannu sut mae’r pecyn cymorth wedi eich helpu chi.
Sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi bwydo ar y fron yn y gwaith

Cyflwynodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ‘Y Nyth’, gofod llesiant pwrpasol sy’n cynnwys ardal i rieni ar gyfer bwydo ar y fron a thynnu llaeth o’r fron.
Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â rhwydweithiau staff a grwpiau gweithwyr, mae’n rhoi amgylchedd preifat a chyfforddus sy’n cefnogi anghenion rhianta a llesiant.
“Yn iechyd cyhoeddus cymru rydym am gefnogi pob teulu yng nghymru i fwydo ar y fron cyhyd ag y dymunant ac mae hynny’n dechrau gyda’n staff.”
Claire Birchall,Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd A Llywodraethu Integredig.
Darllenwch y stori lawn ar ein gwefan ac archwilio straeon llwyddiant eraill.
Digwyddiadau CIW am ddim sydd i ddod
Gweminar Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith
Ymunwch â’r gweminar rhad ac am ddim hwn a dysgwch yma Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith:
- Deall beth yw’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith a pham mae ei angen
- Pwy sy’n darparu’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith mewn gwahanol feysydd
- Y gwasanaethau a’r gefnogaeth a ddarperir drwy Gymorth yn y Gwaith a rhai o’r llwyddiannau maen nhw wedi’u cael
- Sut y gall cyflogwyr ac unigolion gysylltu â’u cymorth neu gael mynediad ato
Dyddiad: 07 Hydref 2026
Amser: 10:00 – 11:00
Lleoliad: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)
Gweithdai Camau Cyntaf CIW
Ydych chi’n newydd i iechyd a llesiant yn y gweithle, neu’n ansicr ble i ddechrau?
Mae ein gweithdai ymarferol, rhad ac am ddim, ‘Camau Cyntaf’, wedi’u cynllunio i helpu sefydliadau ledled Cymru i fwrw ati gyda hyder.
Drwy gymryd rhan byddwch hefyd yn gymwys i wneud cais am ein Bathodyn Cydnabyddiaeth Cyflogwr Gweithredol.
Cofrestrwch ar gyfer gweithdy sydd ar ddod:
Cadwch y dyddiad – Digwyddiad Blynyddol Cymru Iach ar Waith
Gwnewch gofnod ar eich calendrau ar gyfer 12 Tachwedd 2026 ac ymunwch â ni yn ein digwyddiad blynyddol wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan.
Bathodynnau Cydnabyddiaeth CIW


Mae’r Bathodynnau Cydnabyddiaeth Cymru Iach ar Waith (CIW) yn cydnabod cyflogwyr sy’n cymryd camau cadarnhaol i wella iechyd a llesiant yn y gweithle.
Adroddiad Blynyddol Cymru Iach ar Waith 2025-26

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur a chyffrous i Gymru Iach ar Waith.
I gael gwybod rhagor am y ffordd rydym wedi cefnogi cyflogwyr ledled Cymru yn ystod 2025-26, gan gynnwys lansio gwasanaethau newydd, gweminarau am ddim, rhaglenni cymorth yn y gweithle ac adnoddau a ddyluniwyd i wella iechyd a llesiant gweithwyr.
Sgiliau cynaliadwyedd ar gyfer gweithle sy’n barod ar gyfer y dyfodol

Ydych chi eisiau cryfhau gwybodaeth eich sefydliad am gynaliadwyedd? Mae amrywiaeth o gyrsiau cynaliadwyedd amgylcheddol ISEP a ariennir yn llawn ar gael ym mis Medi.
Maent yn cwmpasu:
- Cynaliadwyedd i’r gweithlu a rheolwyr
- Systemau rheoli amgylcheddol (EMS)
- Archwilio amgylcheddol
- Rheoli ynni a charbon
- Mae cyrsiau ar gael ar-lein ac ar Gampws Gelli Aur, ac mae cyllid ar gael i ddysgwyr cymwys.
Dyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol sydd ar ddod
Medi 2026
Wythnos Ryngwladol Hapusrwydd yn y Gwaith (21-25 Medi)
Wythnos Addysg Oedolion (21-27 Medi)
Wythnos Genedlaethol Iechyd y Llygaid (21-27 Medi)
Bore Coffi Macmillan (25 Medi)
Gweithdy Ewch Amdani i Ffynnu (27 Medi)
Hydref 2026
Mis Ymwybyddiaeth o’r Menopos (Hydref)
Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron (Hydref)
Gweminar Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith (07 Hydref)
Gweithdy Camau Cyntaf Cymru Iach ar Waith (08 Hydref)
Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref)
Diwrnod Arthritis y Byd (12 Hydref)
Gallwch ddod o hyd i weddill ymgyrchoedd y flwyddyn ar ein gwefan.