Skip to content

Iechyd a llesiant dynion yn y gweithle

Dysgwch sut y gall cefnogi iechyd dynion fod o fudd i weithleoedd, a darganfyddwch ffyrdd y gall cyflogwyr gefnogi iechyd a lles dynion yn y gweithle.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Gall cyflogwyr helpu drwy rannu gwybodaeth iechyd, annog arferion iach a chreu gweithle lle mae gweithwyr yn teimlo’n gyfforddus yn siarad am eu hiechyd a’u llesiant.

Gall camau syml helpu i godi ymwybyddiaeth, cefnogi ymyrraeth gynnar a gwella llesiant cyffredinol dynion.

Isod mae rhai adnoddau, syniadau ac offer i gefnogi iechyd dynion yn eich gweithle chi.

Creu diwylliant gweithle cefnogol

Gall diwylliant cefnogol yn y gweithle helpu gweithwyr i drafod pryderon iechyd a chael mynediad at gymorth.

Gall codi ymwybyddiaeth o iechyd dynion helpu i gynyddu dealltwriaeth ac annog gweithwyr i gael cymorth.

Gall annog sgyrsiau agored a pharchus a normaleiddio trafodaethau am iechyd a llesiant helpu i leihau stigma a chreu amgylchedd lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, a bod eraill yn gwrando arnynt.

Dysgwch ragor am ddiogelwch seicolegol yn y gweithle a chyfathrebu yn y gweithle.

Galluogi rheolwyr i ddarparu cymorth

Dylai rheolwyr dderbyn hyfforddiant ac arweiniad ar iechyd dynion, cydraddoldeb, sgiliau cyfathrebu ac addasiadau yn y gweithle i gefnogi cynnal sgyrsiau’n hyderus ac yn gyson.

Dysgwch ragor yn ein pynciau diogelwch seicolegol yn y gweithle, cyfathrebu yn y gweithle a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith.

Datblygu polisïau ac arferion cefnogol

Gall polisïau a gweithdrefnau clir helpu i sicrhau bod iechyd dynion yn cael ei gefnogi’n gyson ac yn deg.

Adolygwch bolisïau perthnasol y gweithle i sicrhau eu bod yn cefnogi gweithwyr sy’n profi problemau iechyd dynion. Dylech gynnwys polisïau sy’n ymwneud â llesiant, gweithio hyblyg, rheoli absenoldeb ac addasiadau yn y gweithle.

Sicrhewch fod gweithwyr yn gwybod pa gymorth sydd ar gael a sut i gael mynediad ato.

Cefnogi addasiadau yn y gweithle a gweithio hyblyg

Gall addasiadau yn y gweithle a threfniadau gweithio hyblyg helpu gweithwyr i reoli cyflyrau iechyd a symptomau, aros yn y gwaith a pherfformio ar eu gorau.

Bydd y cymorth sydd ei angen yn amrywio rhwng unigolion a gall newid dros amser.

Gall enghreifftiau gynnwys:

  • Oriau neu batrymau gwaith hyblyg
  • Seibiannau ychwanegol
  • Mynediad i fannau gorffwys
  • Addasiadau i dymheredd neu system awyru’r gweithle
  • Addasiadau dros dro i ddyletswyddau
  • Trefniadau gweithio hybrid neu gartref lle bo’n briodol
  • Dychweliadau fesul cam i’r gwaith yn dilyn cyfnodau o absenoldeb

Dylai cyflogwyr a rheolwyr weithio gyda gweithwyr i nodi cymorth priodol yn seiliedig ar anghenion ac amgylchiadau unigol.

Dysgwch ragor am weithio hyblyg a rheoli absenoldeb salwch.

Helpu gweithwyr i gael mynediad at gymorth ac adnoddau

Gall darparu gwybodaeth glir a chyfeirio at adnoddau dibynadwy helpu gweithwyr i ddod o hyd i’r cymorth cywir ar gyfer eu hiechyd a’u llesiant.

Hyrwyddwch gymorth sydd ar gael yn y gweithle, fel gwasanaethau iechyd galwedigaethol, rhaglenni cymorth i weithwyr, y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, adnoddau llesiant a sefydliadau cefnogi allanol.

Sicrhewch fod gweithwyr yn gwybod sut i gael mynediad at gymorth yn gyfrinachol.

Hyrwyddo iechyd ataliol

Gall cefnogi iechyd ataliol helpu gweithwyr i gynnal eu llesiant, cael cymorth yn gynnar a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eu hiechyd.

Codwch ymwybyddiaeth o raglenni sgrinio cenedlaethol ac anogwch gweithwyr i fynychu apwyntiadau pan gânt eu gwahodd i wneud hynny.

Anogwch gyfranogiad mewn mentrau llesiant yn y gweithle a hyrwyddwch ffyrdd iach o fyw, gan gynnwys bod yn egnïol, bwyta’n iach a llesiant meddyliol.

Gall darparu mynediad at wybodaeth iechyd a gwasanaethau cymorth dibynadwy helpu gweithwyr i gymryd camau cadarnhaol i reoli eu hiechyd.

Mae’r adnoddau sydd ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys:

Adolygu a gwella cymorth yn y gweithle

Gall ceisio adborth yn rheolaidd helpu cyflogwyr i ddeall profiadau gweithwyr a nodi cyfleoedd i wella cymorth yn y gweithle.

Defnyddiwch arolygon gweithwyr, rhwydweithiau staff neu drafodaethau llesiant i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a ble efallai bod angen cymorth ychwanegol.

Cefnogi iechyd meddwl a llesiant
  • Hyrwyddo llesiant meddyliol cadarnhaol a diogelwch seicolegol
  • Annog sgyrsiau agored am iechyd meddwl
  • Cyfeirio gweithwyr at wasanaethau cymorth, gan gynnwys y gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, a’r Rhaglen Cymorth i Weithwyr (EAP)
  • Cyfeiriad at Men’s Sheds Cymru (Saesneg yn unig)– maen nhw’n cynnig rhwydweithiau cymunedol a gwasanaeth trwy ffurfio a chefnogi siediau ar gyfer dynion
  • Hyfforddi rheolwyr i gydnabod ac ymateb yn briodol i bryderon llesiant

Dysgu rhagor am iechyd meddwl a llesiant a diogelwch seicolegol yn y gwaith.

Os oes angen cymorth iechyd meddwl brys arnoch, ffoniwch 111 a phwyso OPSIWN 2.

Os ydych chi’n poeni am rywun neu’n ei chael hi’n anodd ymdopi ac rydych chi angen siarad â rhywun, ffoniwch y Samariaid unrhyw bryd, o unrhyw ffôn AM DDIM: 116 123

Cefnogi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth

Gall ymgyrchoedd ymwybyddiaeth helpu i gynyddu dealltwriaeth o faterion iechyd dynion, lleihau stigma ac annog gweithwyr i gael mynediad at gymorth.

Dyma rai enghreifftiau:

Dewch o hyd i ymgyrchoedd ymwybyddiaeth eraill i gefnogi drwy gydol y flwyddyn.

Defnyddio cefnogaeth gan Cymru Iach ar Waith

Defnyddiwch yr Offeryn Arolwg Cyflogwyr Cymru Iach ar Waith sydd ar gael yn rhad ac am ddim i adolygu eich dull o ymdrin ag iechyd a llesiant gweithwyr. Ar ôl ei gwblhau byddwch yn cael adroddiad wedi’i deilwra yn cynnwys camau nesaf awgrymedig.

Gall cyflogwyr yng Nghymru hefyd gael mynediad at sesiynau cymorth un i un am ddim gan Gynghorydd yn y gwaith ar ôl cwblhau’r Offeryn Arolwg Cyflogwyr.

Gall ein Cynghorwyr helpu sefydliadau i gryfhau eu dull cyffredinol o ymdrin ag iechyd, llesiant a diwylliant y gwaith, ond ni allant roi cyngor ar achosion gweithwyr penodol.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25th Tachwedd 2026