Hydref 2026

Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)

Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.

Y mis hwn:

  • Ymunwch â ni yn ein digwyddiad blynyddol y mis nesaf
  • Gweithwyr 50 oed a hŷn yng Nghymru – ymunwch â’r sgwrs
  • Dathlu ein deiliaid Bathodyn Cydnabyddiaeth diweddaraf
  • Gweminarau a gweithdai sydd ar ddod
  • Sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi’r menopos a llesiant yn y gwaith
  • Galw ar gyflogwyr i hyrwyddo brechiadau rhag y ffliw
  • Pam mae cydraddoldeb rhywedd yn bwysig yn y gweithle
  • Ymgyrchoedd mis Hydref

Ymunwch â ni yn ein digwyddiad blynyddol y mis nesaf

Ymunwch â ni yng Nghaerdydd ar 12 Tachwedd ar gyfer ein digwyddiad Cymru Iach ar Waith blynyddol.
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn dod â sefydliadau o bob cwr o Gymru ynghyd i archwilio’r datblygiadau diweddaraf ym maes llesiant yn y gweithle.

  • Cyfle i glywed y diweddaraf gan Cymru Iach ar Waith
  • Cewch ddysgu am ein hymchwil i brofiadau gweithwyr 50 oed a hŷn yng Nghymru
  • Ewch ati i ymuno â sgwrs banel a sesiwn holi ac ateb yn trafod llesiant yn y gweithle
  • Cyfle i rwydweithio gyda chymheiriaid a chysylltu â thîm Cymru Iach ar Waith a sefydliadau partner

P’un a ydych chi’n newydd i Cymru Iach ar Waith neu eisoes yn ymwneud â’n rhaglen, bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i glywed am y datblygiadau diweddaraf, rhannu profiadau, meithrin cysylltiadau newydd a darganfod sut y gallwn ni gefnogi eich sefydliad chi i greu gweithle iachach.

Manylion y digwyddiad

  • Dyddiad: 12 Tachwedd 2026
  • Amser: 09:00 – 13:00
  • Lleoliad: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Capital Quarter 2, Caerdydd

Cofestrwch i fynychu

Gweithwyr 50 oed a hŷn yng Nghymru – ymunwch â’r sgwrs

Ydych chi eisiau helpu i lunio gwell cymorth yn y gweithle i weithwyr 50 oed a hŷn ledled Cymru? Os ydych chi’n 50 oed neu hŷn ac rydych chi’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Bydd eich adborth yn helpu i ddatblygu adnoddau a chanllawiau ymarferol i hyrwyddo gweithleoedd iachach, mwy cynhwysol ac oed-gyfeillgar ledled Cymru.

Bod yn rhan o gweithdy

Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly archebwch eich lle yn y sesiwn o’ch dewis i sicrhau y caiff eich llais ei gynnwys.

Llenwch ein harolwg

Rydym hefyd yn gwahodd cyflogwyr i rannu eu profiadau o gefnogi gweithwyr 50+ oed. Beth sy’n mynd yn dda? Pa heriau rydych yn eu profi? Pa adnoddau, hyfforddiant neu arweiniad fyddai’n helpu?

Bydd eich adborth yn ein helpu ni i ddatblygu cefnogaeth ymarferol i gyflogwyr ar draws Cymru.

Llenwch ein harolwg

Dathlu ein deiliaid Bathodyn Cydnabyddiaeth diweddaraf

Mae Cymru Iach ar Waith yn falch iawn o gael cydnabod sefydliadau sy’n gwneud cynnydd cadarnhaol o ran hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gweithle.

Llongyfarchiadau i ddeiliaid ein bathodyn Cyflogwr Gweithredol diweddaraf.

  • Athetau Cymru
  • Banc Datblygu Cymru
  • Blue Heart Group
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • CBAC
  • Nurture Group Ltd
  • Prifddinas Ranbarth Caerdydd
  • Tai Gogledd Cymru
  • The Safety Letter Box Company Ltd
  • Total Water Products

Oes diddordeb gennych mewn cael cydnabyddiaeth i’ch sefydliad chi? Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

Ewch i fathodynnau cydnabyddiaeth

Gweminarau a gweithdai sydd ar ddod

Mae gennym amrywiaeth o weminarau a gweithdai am ddim sydd â’r nod o hyrwyddo gweithleoedd a gweithwyr iachach ledled Cymru.

Gweminar bwlio ac aflonyddu yn y gweithle – 04 Tachwedd

Ymunwch â ni i mewnwelediad gwerthfawr ynghylch adnabod bwlio ac aflonyddu yn y gweithle, ei atal a mynd i’r afael ag ef.

10:00 – 11:00, MS Teams

Cofrestrwch i fynychu

Gweminar ar Ddiogelwch Seicolegol yn y Gweithle– 26 Tachwedd

Ymunwch â ni i archwilio’r hyn y mae diogelwch seicolegol yn ei olygu a chamau ymarferol ar gyfer ei ddatblygu yn eich sefydliad.

10:00 – 11:00, MS Teams

Cofrestrwch i fynychu

Gweithdy Ewch, Amdani I Ffynnu – 26 Tachwedd

Gall pobl 16 – 24 oed ymuno â ni am weithdy ymarferol i’w helpu i deimlo’n hyderus, bod ganddyn nhw bopeth y mae ei angen arnyn nhw a’u bod yn barod i ffynnu yn y gwaith.

13:30 – 15:00, MS Teams

Cofrestrwch i fynychu

Gweithdy Camau Cyntaf – 19 Tachwedd / 8 Rhagfyr

  • 19 Tachwedd 10:00 – 12:00, MS Teams
  • 8 Rhagfyr, 13:00 – 15:00, MS Teams

Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy ymarferol i’ch helpu i gymryd eich camau cyntaf tuag at wella iechyd a llesiant yn y gwaith.

Cofrestrwch I fynychu

Sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi’r menopos a llesiant yn y Gwaith

Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Menopos, rydym am rannu sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cryfhau’r cymorth i staff sy’n profi’r menopos. Rydym yn gwneud hyn trwy godi ymwybyddiaeth, darparu canllawiau ac adnoddau, ymgorffori’r menopos yn ei fentrau llesiant a chydraddoldeb ac annog sgyrsiau agored ar draws y sefydliad.

Drwy gefnogaeth gan reolwyr, gweithio hyblyg, addasiadau i’r gweithle a mentrau cefnogaeth gan gymheiriaid fel Caffi Menopos, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu i greu gweithle mwy cynhwysol, deallgar ac ystyriol o’r menopos lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth i ffynnu.

Darllen y stori llwyddiant lawn.

Os ydych chi eisiau rhannu sut mae eich sefydliad chi yn hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gwaith, cysylltwch â ni i rannu eich stori.

Galw ar gyflogwyr i hyrwyddo brechiadau rhag y ffliw

Fel cyflogwr yng Nghymru, rydych chi’n chwarae rhan bwysig wrth gadw’ch gweithlu’n iach a helpu i leihau lledaeniad y ffliw.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu ystod o adnoddau cyfathrebu i helpu cyflogwyr i hyrwyddo brechu rhag y ffliw yn y gweithle. Trwy annog staff cymwys i gael eu brechu, gallwch chi helpu i amddiffyn eich gweithlu, lleihau absenoldebau oherwydd salwch a hyrwyddo iechyd y cyhoedd ledled Cymru.

Gallwch gael mynediad at yr adnoddau ar wefan ICC neu eu lawrlwytho o blatfform Brandkit.

Diolch i chi am ein helpu i amddiffyn pobl yng Nghymru rhag y ffliw y gaeaf hwn.

Pam mae cydraddoldeb rhywedd yn bwysig yn y gweithle

Mae gormod o bobl yng Nghymru yn profi iechyd gwael neu fywydau byrrach oherwydd anghydraddoldebau iechyd annheg y gellir eu hosgoi. Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol John Moores Lerpwl, sef Pam Mae Rhywedd yn Bwysig: Tlodi Plant ac Anghydraddoldebau Iechyd, wedi canfod bod anghydraddoldeb rhywedd yn ffactor allweddol sy’n achosi tlodi plant ac anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Gall cyflogwyr helpu drwy wreiddio egwyddorion gwaith teg, sy’n cynnwys mynediad at oriau diogel, cyflog teg a chreu cyfleoedd ar gyfer datblygiad a chynnydd.

Darllen y stori lawn

Ymgyrchoedd mis Hydref

Ydych chi’n chwilio am ffyrdd o hyrwyddo iechyd a llesiant yn eich gweithle chi? Dyma rai ymgyrchoedd y gallwch eu cefnogi yn eich gweithle chi yn ystod mis Tachwedd.

Movember (01 – 30 Tachwedd 2026)

Wythnos Genedlaethol Hunanofal (16 – 22 Tachwedd 2026)

Wythnos Siarad am Arian (02 – 06 Tachwedd 2026)

Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth am Straen (02 – 06 Tachwedd)

Diwrnod Diabetes y Byd (14 Tachwedd)

Diwrnod Rhyngwladol y Dynion (19 Tachwedd)

Gallwch ddod o hyd i weddill ymgyrchoedd y flwyddyn ar ein gwefan.