Gweithdai Niwroamrywiaeth: Meddwl yn wahanol
Ymunwch â CIW am gweithdy ddifyr a llawn mewnwelediad sy’n archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i greu gweithle cefnogol a niwrogynhwysol. Nod y sesiwn hon yw helpu cyflogwyr ledled Cymru i gryfhau eu dealltwriaeth o niwroamrywiaeth a datblygu dulliau mwy cynhwysol o gefnogi gweithwyr niwroamrywiol.
Y pynciau sydd i’w trafod
- Beth yw niwroamrywiaeth
- Pam mae niwrogynhwysiant yn bwysig
- Herio mythau a stereoteipiau
- Archwilio arferion cynhwysiant yn y gweithle
Pwy all fynychu
Mae’r gweithdy gyflwyniadol a rhyngweithiol hon yn agored i gyflogwyr ledled Cymru, gan gynnwys rheolwyr, arweinwyr AD, rheolwyr pobl ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu eu dealltwriaeth o niwroamrywiaeth yn y gweithle.
Mae wedi’i anelu at ddechreuwyr a’r rhai sydd heb fawr o wybodaeth neu brofiad blaenorol o niwroamrywiaeth.
Gweithdai sydd ar ddod
Mae lleoedd yn gyfyngedig fel bod y gweithdy’n gallu parhau i fod yn ymarferol, yn gefnogol ac yn ddefnyddiol i bawb sy’n cymryd rhan. Bydd hyn yn rhoi amser i chi ofyn cwestiynau, rhannu syniadau a dechrau cynllunio camau gweithredu sy’n iawn i’ch sefydliad.
Ar ôl cymryd rhan yn y gweithdy, byddwch hefyd yn gymwys i wneud cais am ein Bathodyn Cydnabod Cyflogwr Gweithredol.