Cymru Iach ar Waith

Dechreuwch gyda Cymru Iach ar Waith

Mae Cymru Iach ar Waith yn cynnig cyngor, canllawiau ac adnoddau am ddim i helpu sefydliadau i greu gweithleoedd iachach.

Dod o hyd i gymorth ymarferol, offer llesiant yn y gweithle ac arweiniad arbenigol i helpu i wella iechyd a llesiant eich gweithlu.

Trawsgrifiad – Trosolwg o Cymru Iach ar Waith

Ar draws Cymru, mae straen sy’n gysylltiedig â gwaith, absenoldeb oherwydd salwch, a phroblemau iechyd hirdymor yn effeithio ar filoedd o bobl, gan gostio amser ac adnoddau gwerthfawr i fusnesau.

Ond gyda’r gefnogaeth gywir, gellir rheoli’r heriau hyn, gan helpu gweithwyr a sefydliadau i ffynnu.

Mae Cymru Iach ar Waith yn rhaglen genedlaethol dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rydym yn cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i greu gweithleoedd iachach, hapusach a mwy cynhyrchiol, trwy ganolbwyntio ar dri maes allweddol:

Amgylcheddau gwaith iach; hyrwyddo cyfathrebu, datblygiad, cydraddoldeb a chynaliadwyedd.

Ffyrdd o fyw iach; gan gynnwys lles meddyliol, gweithgaredd corfforol a maeth. Cefnogi gweithwyr ag anghenion iechyd; gan gynnwys rheoli cyflyrau cronig a dychwelyd i’r gwaith ar ôl salwch.

Rydym yn ei gwneud hi’n syml i gyflogwyr gymryd camau gweithredu gyda’n dull Mynediad, Cwblhau ac Ymgysylltu o roi cymorth am ddim:

Mynediad et ein hadnoddau gwefan, gweminarau a theclynnau i gyd ar gael am ddim.

Cwblhau ein modiwlau e-ddysgu am ddim ar gyfer dysgu mwy manwl, a’n Teclyn Arolwg Cyflogwyr i asesu eich gweithle a nodi meysydd i’w gwella.

Ymgysylltu â’n gwasanaeth Cymorth Cynghorydd Gweithle a’n Rhaglen Mentora Cyfoedion i gael canllawiau 1:1 wedi’u teilwra a chysylltu â sefydliadau eraill.

Cymru Iach ar Waith – Cefnogi cyflogwyr i greu gweithle iach, gweithlu iach a busnes iach.

Ewch i iacharwaith.cymru i ddechrau heddiw.

Archwilio profiadau gweithwyr 50+ yng Nghymru

Os ydych chi’n 50 oed neu’n hŷn ac yn gweithio yng Nghymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Ymunwch ag un o’n gweithdai ar-lein sydd ar ddod a chyfrannwch at brosiect a fydd yn helpu i wella’r gefnogaeth yn y gweithle i weithwyr hŷn ledled Cymru.

Two older people looking at a phone

Gweminar sydd a ddod

Bwlio ac flonyddu yn y gweithle

04 Tachwedd

10:00 – 11:00

Gweithdy sydd ar ddod

Gweithdy Camau Cyntaf

19 Tachwedd

10:00 – 12:00

Gweithdai

Mae Cymru Iach ar Waith yn darparu gweithdai am ddim sydd â’r nod o gefnogi iechyd a llesiant yn y gweithle a chreu gweithleoedd iachach a hapusach ledled Cymru.

Cael eich cydnabod

Mae ein Bathodynnau Cydnabyddiaeth yn dathlu sefydliadau ledled Cymru sy’n cymryd camau cadarnhaol i wella iechyd a llesiant yn y gweithle.

Dysgu am y gwahanol fathodynnau a sut y gall eich sefydliad ennill cydnabyddiaeth.

Cael eich ysbrydoli

Archwilio ein straeon llwyddiant i ddysgu sut mae sefydliadau ledled Cymru yn blaenoriaethu iechyd a llesiant yn eu gweithleoedd.

Dysgu am yr hyn sy’n gweithio iddyn nhw a chael syniadau y gallwch chi eu defnyddio yn eich sefydliad.

Cadw i fyny â’r wybodaeth ddiweddaraf

Rhoi hwb i iechyd yn y gweithle trwy gael awgrymiadau, offer ac adnoddau arbenigol yn syth i’ch mewnflwch.

Cael y newyddion diweddaraf am adnoddau newydd, digwyddiadau sydd ar ddod a ffyrdd ymarferol o gefnogi iechyd a llesiant yn eich gweithle.