Skip to content

Iechyd a llesiant menywod yn y gweithle

Dysgwch pam mae iechyd menywod yn bwysig yn y gweithle a darganfyddwch ffyrdd o gefnogi lles, cynhwysiant, a chyfartaledd yn y gwaith.

Neidio'r tabl cynnwys

Deall iechyd menywod

Mae iechyd menywod yn cynnwys ffactorau corfforol, meddyliol, atgenhedlu a chymdeithasol a all effeithio ar iechyd a llesiant drwy gydol oes.

Gall cyflyrau iechyd a digwyddiadau bywyd effeithio ar bresenoldeb, perfformiad, hyder a phrofiad yn y gwaith.

Gall deall problemau iechyd cyffredin menywod helpu cyflogwyr i greu gweithleoedd iachach a mwy cynhwysol.

Iechyd Mislif

Gall iechyd mislif effeithio ar gysur, canolbwyntio, presenoldeb a llesiant yn y gwaith.

Gall gweithle cefnogol helpu i leihau stigma a galluogi gweithwyr i gael mynediad at gymorth.

Urddas mislif

Mae urddas mislif yn golygu sicrhau bod gan bawb fynediad at gynhyrchion mislif, gwybodaeth gywir ac amgylcheddau heb stigma a gwahaniaethu.

Mae’r adnoddau’n cynnwys:

Syndrom Cyn Mislif (PMS) ac Anhwylder Dysfforig Cyn y Mislif (PMDD)

Gall Syndrom Cyn Mislif (PMS) ac Anhwylder Dysfforig Cyn y Mislif (PMDD) achosi symptomau corfforol, emosiynol a seicolegol cyn mislif.

I rai menywod, gall symptomau effeithio ar lesiant, canolbwyntio a pherfformiad yn y gwaith.

Dysgwch ragor am PMS a PMDD.

Iechyd gynaecolegol

Gall rhai cyflyrau gynaecolegol gael effaith sylweddol ar iechyd corfforol, llesiant a gweithgareddau beunyddiol, gan gynnwys gwaith.

Gall cyflyrau fel endometriosis, syndrom ofarïau polysystig (PCOS), ffibroidau a gwaedu mislif trwm achosi poen, blinder ac anhawster canolbwyntio yn y gwaith.

Dylai cyflogwyr a rheolwyr weithio gyda gweithwyr i nodi cymorth priodol.

Dysgwch ragor am:

Ffrwythlondeb ac iechyd atgenhedlu

Gall problemau ffrwythlondeb effeithio ar lawer o unigolion a chyplau yn emosiynol, yn gorfforol ac yn ariannol.

Efallai y bydd angen hyblygrwydd ar weithwyr sy’n cael ymchwiliadau neu driniaeth ffrwythlondeb i fynychu apwyntiadau, rheoli amserlenni triniaeth ac ymdopi ag effaith ansicrwydd neu straen.

Gall dealltwriaeth a hyblygrwydd helpu gweithwyr i deimlo eu bod yn cael cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn.

Ewch i wefan GIG 111 Cymru am ragor o wybodaeth am anffrwythlondeb.

Colled yn ystod beichiogrwydd

Gall effaith colled yn ystod beichiogrwydd fod yn gorfforol ac yn emosiynol a gall effeithio ar weithwyr yn wahanol.

Mae colled yn ystod beichiogrwydd yn cyfeirio at golli babi ar unrhyw gam a gall gynnwys:

  • Camesgoriad
  • Beichiogrwydd ectopig
  • Beichiogrwydd molar
  • Marw-enedigaeth
  • Terfynu am resymau meddygol

Gall gweithle tosturiol helpu gweithwyr i deimlo eu bod yn cael cymorth yn ystod y cyfnod gwella a galar.
Efallai y bydd angen amser i ffwrdd o’r gwaith, addasiadau yn y gweithle neu fynediad at gymorth llesiant ar weithwyr yn dilyn colled yn ystod beichiogrwydd.

Dysgwch ragor am wybodaeth a chymorth colli babi gan Tommy’s (Saesneg yn unig).

Ewch i wefan Acas am wybodaeth am amser i ffwrdd ar ôl marw-enedigaeth neu gamesgoriad (Saesneg yn unig).

Beichiogrwydd, mamolaeth ac iechyd ôl-enedigol

Gall cymorth yn ystod beichiogrwydd, absenoldeb mamolaeth ac ôl-enedigol gael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant gweithwyr.

Gall cyflogwyr gefnogi gweithwyr drwy:

  • Cynnal asesiadau risg
  • Eu cefnogi i fynychu apwyntiadau cyn geni
  • Cynnal trefnau cyfathrebu priodol yn ystod cyfnod o absenoldeb
  • Cynllunio ar gyfer dychwelyd i’r gwaith â chymorth

Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ragor o wybodaeth ar asesu risg ar gyfer gweithwyr beichiog a mamau newydd (Saesneg yn unig).

Dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth

Dylai cyflogwyr gefnogi gweithwyr sy’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth, gan eu helpu i ymgartrefu’n ôl yn y gwaith ac ymdrin ag unrhyw bryderon yn gynnar.

Efallai bod gweithwyr sy’n dychwelyd i’r gwaith yn addasu i gyfrifoldebau gofalu newydd, newidiadau i’w hiechyd a’u llesiant ac yn cydbwyso bywyd gwaith a theuluol.

Gall gweithio hyblyg, cyfathrebu rheolaidd a chymorth yn y gweithle helpu gweithwyr i ddychwelyd i’r gwaith yn llwyddiannus.

Ewch i wefan Acas am ragor o wybodaeth am ddychwelyd i’r gwaith ar ôl beichiogrwydd (Saesneg yn unig).

Dysgwch ragor am:

Cymorth i fwydo ar y fron

Dylai gweithwyr sy’n dewis bwydo ar y fron neu dynnu llaeth yn y gwaith gael mynediad at gyfleusterau addas, seibiannau priodol a diwylliant cefnogol yn y gweithle.

Dysgwch ragor am gefnogi bwydo ar y fron yn y gweithle a lawrlwythwch ein pecyn cymorth bwydo ar y fron yn y gweithle.

Mae ein Bathodyn Cyflogwr sy’n Cefnogi Bwydo ar y Fron ar gael i sefydliadau sydd wedi ymrwymo i greu gweithle sy’n cefnogi bwydo ar y fron ar gyfer gweithwyr.

Perimenopos a menopos

Gall y perimenopos a’r menopos effeithio ar weithwyr mewn ffyrdd gwahanol, gyda symptomau’n amrywio’n sylweddol rhwng unigolion. Gall symptomau effeithio ar bresenoldeb, perfformiad, perthnasoedd yn y gweithle a llesiant cyffredinol.

Mae ymchwil gan Gymdeithas Fawcett (Saesneg yn unig) wedi dangos bod un o bob deg menyw wedi gadael swydd oherwydd symptomau’r menopos, gan dynnu sylw at y rôl bwysig y gall cyflogwyr ei chwarae wrth roi cymorth.
Gall cymorth yn y gweithle, hyblygrwydd ac addasiadau rhesymol helpu gweithwyr i reoli symptomau ac aros yn y gwaith.

Dysgwch ragor am gymorth gyda’r menopos yn y gwaith.

Canserau menywod

Mae rhai mathau o ganserau’n fwy cyffredin ymhlith menywod neu’n effeithio ar organau atgenhedlu benywaidd, gan gynnwys canser y fron, canser ceg y groth, canser yr ofari a chanser y groth. Er ei fod yn brin, gall canser y fron effeithio ar ddynion hefyd.

Gall canfod yn gynnar, mynediad at driniaeth ac arferion cefnogol yn y gweithle helpu gweithwyr i reoli diagnosis, triniaeth a pharhau i ymgysylltu â’r gwaith lle bo’n briodol.

Dylai cyflogwyr a rheolwyr gefnogi gweithwyr i fynychu apwyntiadau, cael mynediad at driniaeth a thrafod eu hanghenion.

Dysgwch ragor am:

Sgrinio a gofal iechyd ataliol

Mae rhaglenni sgrinio’n helpu i nodi unigolion a allai fod mewn mwy o berygl o glefyd cyn i symptomau ddatblygu.

Gall cyflogwyr annog gweithwyr i fynychu apwyntiadau sgrinio a hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r rhaglenni sydd ar gael.

Mae rhaglenni sgrinio’n cynnwys:

Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Heneiddio’n Iach

Mae heneiddio’n iach yn golygu aros yn iach yn gorfforol, yn feddyliol ac yn gymdeithasol wrth i ni heneiddio.

Gall menywod brofi cyflyrau iechyd corfforol a meddyliol wrth iddynt heneiddio, gan gynnwys:

Gall cyflogwyr gefnogi heneiddio’n iach drwy hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a gofal iechyd ataliol.

Dysgwch ragor am:

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24th Tachwedd 2026