Iechyd a llesiant menywod yn y gweithle
Dysgwch pam mae iechyd menywod yn bwysig yn y gweithle a darganfyddwch ffyrdd o gefnogi lles, cynhwysiant, a chyfartaledd yn y gwaith.
Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud
Drwy fabwysiadu dull rhagweithiol, gall cyflogwyr greu gweithleoedd lle mae menywod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu parchu a’u bod yn gallu ffynnu drwy gydol eu bywyd gwaith.
Creu diwylliant gweithle cefnogol
Gall diwylliant cefnogol yn y gweithle helpu gweithwyr i drafod pryderon iechyd a chael mynediad at gymorth.
Gall codi ymwybyddiaeth o iechyd menywod helpu i gynyddu dealltwriaeth ac annog gweithwyr i gael cymorth.
Gall annog sgyrsiau agored a pharchus a normaleiddio trafodaethau am iechyd a llesiant helpu i leihau stigma a chreu amgylchedd lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, a bod eraill yn gwrando arnynt.
Dysgwch ragor am ddiogelwch seicolegol yn y gweithle a chyfathrebu yn y gweithle.
Galluogi rheolwyr i ddarparu cymorth
Dylai rheolwyr dderbyn hyfforddiant ac arweiniad ar iechyd menywod, cydraddoldeb, sgiliau cyfathrebu ac addasiadau yn y gweithle i gefnogi cynnal sgyrsiau’n hyderus ac yn gyson.
Dysgwch ragor yn ein pynciau diogelwch seicolegol yn y gweithle, cyfathrebu yn y gweithle a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith.
Datblygu polisïau ac arferion cefnogol
Gall polisïau a gweithdrefnau clir helpu i sicrhau bod iechyd menywod yn cael ei gefnogi’n gyson ac yn deg.
Adolygwch bolisïau perthnasol y gweithle i sicrhau eu bod yn cefnogi gweithwyr sy’n profi problemau iechyd menywod. Dylech gynnwys polisïau sy’n ymwneud â llesiant, gweithio hyblyg, rheoli absenoldeb ac addasiadau yn y gweithle.
Sicrhewch fod gweithwyr yn gwybod pa gymorth sydd ar gael a sut i gael mynediad ato.
Cefnogi addasiadau yn y gweithle a gweithio hyblyg
Gall addasiadau yn y gweithle a threfniadau gweithio hyblyg helpu gweithwyr i reoli cyflyrau iechyd a symptomau, aros yn y gwaith a pherfformio ar eu gorau.
Bydd y cymorth sydd ei angen yn amrywio rhwng unigolion a gall newid dros amser.
Gall enghreifftiau gynnwys:
- Oriau neu batrymau gwaith hyblyg
- Seibiannau ychwanegol
- Mynediad i fannau gorffwys
- Addasiadau i dymheredd neu system awyru’r gweithle
- Addasiadau dros dro i ddyletswyddau
- Trefniadau gweithio hybrid neu gartref lle bo’n briodol
- Dychweliadau fesul cam i’r gwaith yn dilyn cyfnodau o absenoldeb
Dylai cyflogwyr a rheolwyr weithio gyda gweithwyr i nodi cymorth priodol yn seiliedig ar anghenion ac amgylchiadau unigol.
Dysgwch ragor am weithio hyblyg a rheoli absenoldeb salwch.
Helpu gweithwyr i gael mynediad at gymorth ac adnoddau
Gall darparu gwybodaeth glir a chyfeirio at adnoddau dibynadwy helpu gweithwyr i ddod o hyd i’r cymorth cywir ar gyfer eu hiechyd a’u llesiant.
Hyrwyddwch gymorth sydd ar gael yn y gweithle, fel gwasanaethau iechyd galwedigaethol, rhaglenni cymorth i weithwyr, y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, adnoddau llesiant a sefydliadau cefnogi allanol.
Sicrhewch fod gweithwyr yn gwybod sut i gael mynediad at gymorth yn gyfrinachol.
Hyrwyddo iechyd ataliol
Gall cefnogi iechyd ataliol helpu gweithwyr i gynnal eu llesiant, cael cymorth yn gynnar a gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eu hiechyd.
Codwch ymwybyddiaeth o raglenni sgrinio cenedlaethol ac anogwch gweithwyr i fynychu apwyntiadau pan gânt eu gwahodd i wneud hynny.
Anogwch gyfranogiad mewn mentrau llesiant yn y gweithle a hyrwyddwch ffyrdd iach o fyw, gan gynnwys bod yn egnïol, bwyta’n iach a llesiant meddyliol.
Gall darparu mynediad at wybodaeth iechyd a gwasanaethau cymorth dibynadwy helpu gweithwyr i gymryd camau cadarnhaol i reoli eu hiechyd.
Mae’r adnoddau sydd ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys:
- Cymorth i roi’r gorau i ysmygu neu fepio gan Helpa Fi i Stopio
- Cymorth i gynnal pwysau iach gan Pwysau Iach Byw’n Iach
- Adnoddau llesiant meddyliol gan Hapus
- Gwasanaethau sgrinio
- Gwasanaethau iechyd rhywiol
Adolygu a gwella cymorth yn y gweithle
Gall ceisio adborth yn rheolaidd helpu cyflogwyr i ddeall profiadau gweithwyr a nodi cyfleoedd i wella cymorth yn y gweithle.
Defnyddiwch arolygon gweithwyr, rhwydweithiau staff neu drafodaethau llesiant i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a ble efallai bod angen cymorth ychwanegol.
Cefnogi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth
Gall ymgyrchoedd ymwybyddiaeth helpu i gynyddu dealltwriaeth o faterion iechyd menywod, lleihau stigma ac annog gweithwyr i gael mynediad at gymorth.
Dyma rai enghreifftiau:
- Mis Ymwybyddiaeth Menopos
- Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron
- Mis Ymwybyddiaeth Canser Ceg y Groth
- Mis Ymwybyddiaeth Canser Gynaecolegol (Saesneg yn unig)
- Mis Ymwybyddiaeth Canser yr Ofari (Saesneg yn unig)
Dewch o hyd i ymgyrchoedd ymwybyddiaeth eraill i gefnogi drwy gydol y flwyddyn.
Defnyddio cefnogaeth gan Cymru Iach ar Waith
Defnyddiwch yr Offeryn Arolwg Cyflogwyr Cymru Iach ar Waith sydd ar gael yn rhad ac am ddim i adolygu eich dull o ymdrin ag iechyd a llesiant gweithwyr. Ar ôl ei gwblhau byddwch yn cael adroddiad wedi’i deilwra yn cynnwys camau nesaf awgrymedig.
Gall cyflogwyr yng Nghymru hefyd gael mynediad at sesiynau cymorth un i un am ddim gan Gynghorydd yn y gwaith ar ôl cwblhau’r Offeryn Arolwg Cyflogwyr.
Gall ein Cynghorwyr helpu sefydliadau i gryfhau eu dull cyffredinol o ymdrin ag iechyd, llesiant a diwylliant y gwaith, ond ni allant roi cyngor ar achosion gweithwyr penodol.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24th Tachwedd 2026