Mehefin 2026
Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)
Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.
Y mis hwn:
- Digwyddiadau CIW sydd ar ddod
- Hyfforddiant Ymyriad Byr Alcohol Lefel 2 Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) ar gyfer rolau sy’n ymwneud â’r cyhoedd – Ar gael nawr
- Helpu eich gweithlu i leihau eu risg o ddiabetes math 2
- Straeon Llwyddiant
- Dyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol sydd ar ddod
Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.
Digwyddiadau CIW sydd ar ddod

Cymru Iach ar Waith yng Nghaerdydd
Ymunwch â ni am fore diddorol i gael gwybod y diweddaraf gan CIW, cael cyfle i siarad â Chynghorwyr CIW a chymryd rhan mewn gweithdy rhyngweithiol sy’n archwilio beth yw’r blaenoriaethau iechyd a llesiant allweddol yn eich gweithle.
Y manteision i chi:
- Mynediad i gymorth Cymru Iach ar Waith am ddim
- Cyfle i ofyn cwestiynau a rhannu mewnwelediadau
- Cyfleoedd i rwydweithio
Dyddiad: 02 Gorffennaf 2026
Amser: 09:00 – 12:30
Lleoliad: Capital Quarter 2, Stryd Tyndall, Caerdydd CF10 4BZ
Mae’r digwyddiad hwn wedi’i gynllunio’n bennaf ar gyfer cyflogwyr a rheolwyr llinell mewn busnesau bach a chanolig a sefydliadau yng Nghymru sydd â diddordeb mewn archwilio a defnyddio ein gwasanaethau.
Gweminarau am ddim sydd ar ddod

Cysylltu â byd natur yn y gwaith
Ymunwch â’r weminar rad ac am ddim hon a lansiad Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle a gyflwynir mewn cydweithrediad ag RSPB Cymru.
Cynnwys y weminar hon:
- Lansio Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle
- Manteision cysylltu â byd natur i weithleoedd
- Cipolwg ar sut i ddefnyddio’r calendr yn eich gweithle chi
- Sut i gael mynediad at adnoddau
Dyddiad: Dydd Mercher 08 Gorffennaf 2026
Amser: 10:00 – 11:00
Platfform: Ar-lein (rhoddir y ddolen ar adeg cofrestru)

Gweminar cefnogi gweithwyr bwydo ar y fron
Ymunwch â ni a Rachel Evans, arweinydd Bydwreigiaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, am ragolwg diddorol ar sut i gefnogi gweithwyr sy’n bwydo ar y fron yn y gweithle.
Mae’r sesiwn hon wedi’i chynllunio i helpu cyflogwyr ledled Cymru i gryfhau eu dull o gefnogi bwydo ar y fron a chreu gweithleoedd lle gall gweithwyr gyfuno gwaith a bwydo ar y fron yn llwyddiannus.
Bydd y weminar yn trafod:
- Pam fod cymorth i weithwyr sy’n bwydo ar y fron yn bwysig
- Profiadau gweithwyr yng Nghymru
- Cyflwyno’r Pecyn Offer Bwydo ar y Fron i Reolwyr Llinell ledled Cymru
- Rôl rheolwyr wrth gefnogi gweithwyr
- Enghreifftiau o arfer da gan gyflogwyr
- Adnoddau defnyddiol a chefnogaeth sydd ar gael i gyflogwyr
Dyddiad: 27 Gorffennaf 2026
Amser: 10:00 – 11:30
Lleoliad: Ar-lein (MS Teams)
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu
New HWW topic webpages
-
Gorbryder yn y gweithle
wch ati i archwilio pam mae’n bwysig cefnogi gweithwyr sy’n profi gorbryder a chael gwybod am ffyrdd ymarferol o helpu’ch tîm i deimlo’n ddiogel, yn hyderus a bod pobl yn eu gwerthfawrogi yn y gwaith.
-
Iselder yn y gweithle
Dysgwch sut i adnabod arwyddion iselder a chymryd camau cefnogol a thosturiol i helpu gweithwyr i aros yn iach a ffynnu.
-
Cefnogi gofalwyr yn y gwaith
Cyfle i gael deall effaith cyfrifoldebau gofalu di-dâl a sut y gall creu gweithle cefnogol fod o fudd i’ch pobl a’ch sefydliad.
Hyfforddiant Ymyriad Byr Alcohol Lefel 2 Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) ar gyfer rolau sy’n ymwneud â’r cyhoedd – Ar gael nawr
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio modiwl hyfforddi ar-lein Lefel 2 Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) – Ymyriad Byr Alcohol (ABI).
Mae’r cwrs hwn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn meithrin hyder wrth gyflwyno sgyrsiau strwythuredig byr i gefnogi pobl i leihau eu defnydd o alcohol. Byddwch chi’n dysgu i wneud y canlynol:
- Cydnabod eich rôl wrth atal niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol
- Dechrau sgyrsiau am newid ymddygiad
- Defnyddio’r offeryn sgrinio AUDIT-C yn effeithiol
- Atgyfeirio pobl at wasanaethau cymorth priodol
Ar gyfer pwy y mae’r hyfforddiant
Staff mewn rolau sy’n ymwneud â’r cyhoedd ar draws iechyd, llywodraeth leol, y sector gwirfoddol, maes addysg a lleoliadau cyfiawnder troseddol.
Gallwch gael mynediad at y modiwlau hyfforddi hyn trwy ddilyn y dolenni ar wefan MECC.
Gadewch i ni wneud i bob cyswllt gyfrif – dechreuwch eich hyfforddiant heddiw!
Helpu eich gweithlu i leihau eu risg o ddiabetes math 2

Yng Nghymru, mae diabetes ar un o bob pump oedolyn neu maent mewn mwy o berygl o’i ddatblygu. Gall cyflogwyr chwarae rhan allweddol wrth gefnogi staff i gymryd camau bach sy’n amddiffyn eu hiechyd hirdymor.
Yn aml, gellir atal diabetes math 2, ac mae’n dechrau gyda deall y risgiau.
Dwy funud yn unig. Yn rhad ac am ddim. Syml i’w rannu.
Anogwch eich staff i wirio eu risg heddiw.
Pecyn cymorth i gyflogwyr
Mae modd cael mynediad i asedau sy’n barod i’w defnyddio i’w rhannu ar draws eich sefydliad, gan gynnwys negeseuon ar gyfer e-bost, y fewnrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol
Helpwch ni i ledaenu’r gair
Rhannwch y neges hon yn eich gweithle ac ar draws eich rhwydweithiau i gefnogi dyfodol iachach i bobl ledled Cymru.
Straeon Llwyddiant
A oes gennych chi enghraifft o iechyd a llesiant yn y gweithle ar waith?
Cymerwch olwg ar straeon llwyddiant eraill ar ein gwefan, dywedwch eich stori wrthym ac ysbrydolwch gyflogwyr eraill ledled Cymru!
Dyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol sydd ar ddod
Gorffenaf 2026
Gorffennaf Di-blastig (01 – 31 Gorffennaf)
Dysgwch sut y gall cyflogwyr gymryd rhan yng Ngorffennaf Di-blastig, gan gynnwys adnoddau ac asedau i’w defnyddio i hyrwyddo pwysigrwydd ailgylchu yn y gweithle.
Rhagor o wybodaeth am Orffennaf Di-blastig
Cymru Iach ar Waith Yn Fyw yng Nghaerdydd (02 Gorffennaf)
Ymunwch â ni am fore diddorol ac addysgiadol yng Nghaerdydd, lle byddwn yn rhannu’r diweddariadau, y mewnwelediadau a’r cyfleoedd diweddaraf gan Cymru Iach ar Waith.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i gysylltu, dysgu a chael eich ysbrydoli.
Cofrestru i ddod i’r digwyddiad
Wythnos Natur Cymru (04-12 Gorffennaf)
Ewch ati i ddarganfod sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Natur Cymru i hyrwyddo cysylltu â natur a dysgu pa mor bwysig ydyw ar gyfer iechyd a llesiant cyffredinol gweithwyr.
Rhagor o wybodaeth am Wythnos Natur Cymru
Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol (06 – 12 Gorffennaf)
Cyfle i ddysgu sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol fel cyfle i siarad am niwed yn sgil yfed alcohol gyda gweithwyr a dod o hyd i adnoddau defnyddiol i’w defnyddio.
Rhagor am Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol
Gweminar cysylltu â natur yn y gwaith (08 Gorffennaf)
Ymunwch â’r weminar rad ac am ddim hon a lansiad Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle a gyflwynir mewn cydweithrediad ag RSPB Cymru.
Cofrestru i ddod i’r digwyddiad
Awst 2026
Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd (01 – 07 Awst)
Diwrnod Beicio i’r Gwaith (06 Awst)
Gallwch ddod o hyd i weddill ymgyrchoedd y flwyddyn ar ein gwefan.