Straeon Llwyddiant
Enghreifftiau go iawn o sut mae sefydliadau wedi mynd i’r afael â materion iechyd a lles pwysig yn eu gweithleoedd.
A oes gennych chi enghraifft o iechyd a llesiant yn y gweithle ar waith?
Cysylltwch â ni i adrodd eich stori ac ysbrydoli cyflogwyr eraill ledled Cymru!
-
Sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn defnyddio byd natur i gefnogi llesiant staff
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn cefnogi staff ac yn lleihau diffygiad gyda'i Raglen Ymadfer ym Myd Natur. Trwy gyfuno amser ym myd natur, ymyriadau therapiwtig, addysg am iechyd meddwl a gweithgareddau llesiant dan arweiniad, mae'r rhaglen wedi dangos buddion clir i lesiant staff.
-
Sut mae Penseiri Pentan yn gofalu am eu llesiant yn ogystal â’u llwyth gwaith
Yn ogystal â bod wedi ymrwymo i wneud cyfraniad cymdeithasol ac amgylcheddol cynaliadwy i'r amgylchedd adeiledig, mae'r practis hefyd yn cynnig ystod eang o fentrau iechyd a llesiant a chefnogaeth ymarferol i'w tîm er mwyn sicrhau bod cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ym mhob cam o’u bywyd.
-
Sut adeiladodd Banc Datblygu Cymru weithle iachach drwy gefnogi niwroamrywiaeth yn y gwaith
Mae Banc Datblygu Cymru yn cefnogi ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth gyda hyfforddiant, sesiynau ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad a datblygu Llysgenhadon Niwroamrywiaeth.
-
Sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ysbrydoli gweithlu mwy egnïol
Dysgwch sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) wedi trawsnewid y ffordd y mae gweithwyr yn ymgysylltu â gweithgarwch corfforol drwy her weithgaredd flynyddol.
-
Creu cyflogaeth gynhwysol yn Sight Cymru
Mae ffocws Sight Cymru ar gyflogaeth gynhwysol wedi creu gweithle lle gall gweithwyr sydd wedi colli eu golwg lwyddo a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
-
Sut y datblygodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys weithle mwy gwydn
Defnyddiodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) ddull MAC (Ymwybyddiaeth Ofalgar (Mindfulness, Therapi Derbyn ac Ymrwymo (Acceptance and Commitment Theory) a Thosturi (Compassion)) i gefnogi staff. Roedd y canlyniadau'n cynnwys gwell hunan-dosturi a gostyngiad mewn gofid.
-
Sut mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi’r menopos yn y gwaith
Trwy gyfrwng polisi menopos pwrpasol, adnoddau ar gyfer staff a sefydlu grŵp cymorth, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn helpu cydweithwyr i deimlo'n fwy hyderus a pharod i drafod o fewn awyrgylch o gefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn yn eu bywyd.
-
Sut mae Fun Foundations yn cefnogi bwydo ar y fron yn y gweithle
Sefydlwyd Fun Foundations yn 2010 ac ers hynny mae wedi agor ail leoliad yn Llanilltud Fawr. Rydym yn cyflogi 19 o staff ar ein safle yn y Bont-faen sy'n gofalu am nifer o blant o chwe wythnos oed.
-
Sut mae Abacus Day Nursery yn buddsoddi mewn lles gweithwyr
Mae meithrinfa Abacus wedi'i lleoli yn ardal Pantygwydr yn Abertawe. Mae’n gweithredu mewn amgylchedd cartrefol o dŷ wedi'i addasu ac mae’n cynnig darpariaeth ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.
-
Sut mae Bluestone Resorts Ltd yn blaenoriaethu iechyd meddwl a lles gweithwyr
Mae cyrchfan gwyliau Bluestone wedi'i leoli yn Sir Benfro, gan ddenu dros 150,000 o westeion sy'n aros yn flynyddol ac mae’n cyflogi dros 700 o staff mewn ystod eang o wahanol alwedigaethau.