Medi 2026

Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW).

Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.

Newidiadau arfaethedig i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith

Bydd ein cylchlythyr nesaf yn cael ei anfon o blatfform e-bost newydd.

Er y gall y dyluniad edrych yn wahanol, byddwch yn dal i dderbyn yr un diweddariadau. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth i barhau i fod wedi tanysgrifio.

Y mis hwn

  • Admiral yn ddeiliad bathodyn Cyflogwr Arweiniol cyntaf Cymru
  • Dechrau gwych i’n Rhaglen Mentora Cymheiriaid
  • Helpwch ni i ddeall profiadau gweithwyr 50 oed a hŷn yng Nghymru
  • Diogelwch seicolegol yn y gweithle
  • Digwyddiadau CIW sydd ar ddod
  • Cymorth newydd i bobl sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes Math 2
  • Cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig
  • Dyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol mis Hydref

Dechrau gwych i’n Rhaglen Mentora Cymheiriaid

Two people shaking hands at work.

Mae ein sesiwn Mentora Cymheiriaid gyntaf wedi cael ei chynnal yn swyddogol ac mae’n nodi dechrau taith gyffrous i’r sefydliadau sy’n cymryd rhan.

Mae ein grŵp cyntaf yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant yn y gwaith, a bydd cyfranogwyr yn rhannu profiadau, yn archwilio heriau ac yn trafod syniadau ymarferol y gallant roi cynnig arnynt yn eu gweithleoedd.

Diolch i Paul Billington, ein mentor, ac i’r rhai sy’n cael eu mentora am wneud y sesiwn gyntaf mor llwyddiannus.

Diddordeb mewn Mentora Cymheiriaid? Ewch i’n gwefan i ddysgu mwy a chofrestru eich diddordeb.

Ewch i’r Rhaglen Mentora gan Gymheiriaid

Admiral yn ddeiliad bathodyn Cyflogwr Arweiniol cyntaf Cymru

Admiral Wales' first Leading Employer badge holder

Llongyfarchiadau i Admiral, y sefydliad cyntaf yng Nghymru i dderbyn bathodyn cydnabyddiaeth Cyflogwr Arweiniol Cymru Iach ar Waith.

Mae’r bathodyn yn dathlu sefydliadau sy’n cymryd camau cadarnhaol i wella iechyd a llesiant yn y gweithle.

Mae Admiral, ein deiliad bathodyn Cyflogwr Arweiniol cyntaf, yn gosod esiampl ardderchog drwy ei ymrwymiad i lesiant yn y gweithle, rhannu arferion da a chefnogi sefydliadau eraill drwy ein Rhaglen Mentora Cymheiriaid.

Rhannodd Paul Billington, Uwch Bartner Pobl dros Iechyd a Llesiant yn Admiral:

“Rydyn ni’n gwybod bod taith llesiant pawb yn unigryw i’w profiadau eu hunain, ac mae cael fframwaith clir sy’n gweddu i hynny wedi bod yn allweddol i ni yn Admiral. Ein blaenoriaeth yw i gydweithwyr deimlo bod y gefnogaeth iechyd a llesiant yn hygyrch, yn berthnasol, ac yn y pen draw yn eu helpu i fyw bywydau mwy iach a hapus yn y gwaith a thu hwnt. Rydym yn hynod o falch o dderbyn y gydnabyddiaeth hon, ac rydym yn ymrwymedig i barhau i wella ar gyfer ein cydweithwyr.”

Mae Admiral wedi rhannu enghraifft o’i ymrwymiad i lesiant yn y gweithle yn y stori lwyddiant ddiweddaraf ar ein gwefan. Dysgwch am ei ddull o reoli straen a sut mae’n grymuso cydweithwyr i sicrhau cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith a rheoli pwysau’n effeithiol.

Ewch i’n gwefan i ddysgu mwy am Fathodynnau Cydnabyddiaeth ac i ddarllen y stori llwyddiant.

Helpwch ni i ddeall profiadau gweithwyr 50 oed a hŷn yng Nghymru

New project launch! Exploring the experiences of employees aged 50+ in Wales.

Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous o fod yn gweithio gydag RCS ar brosiect newydd sy’n archwilio profiadau gweithwyr 50 oed a hŷn ledled Cymru.

Os ydych chi’n 50+ mlwydd oed ac yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Mae ein gweithdai ar-lein, cyfeillgar yn rhoi cyfle i chi rannu eich profiadau, trafod yr hyn sy’n eich helpu i gadw’n iach ac yn frwdfrydig yn y gwaith, a thynnu sylw at unrhyw heriau a ddaw i’ch rhan.

Bydd eich adborth yn helpu i ddatblygu canllawiau ac adnoddau ymarferol i weithwyr, a fydd yn cefnogi gweithleoedd iachach, mwy cynhwysol ac ystyriol o oedran ar hyd a lled Cymru.

Bod yn rhan o gweithdy

Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly archebwch eich lle yn y sesiwn o’ch dewis i sicrhau y caiff eich llais ei gynnwys.

Diogelwch seicolegol yn y gweithle

A close up of a team with their hands stacked together over a desk at work.

Mae diogelwch seicolegol yn creu amgylchedd gweithle lle y mae pobl yn teimlo eu bod yn gallu siarad, gofyn cwestiynau, rhannu syniadau a chyfaddef camgymeriadau heb ofni cael eu beio na chael eu trin yn annheg.

Cyn Wythnos Diogelwch Seicolegol, rydym wedi lansio adnoddau newydd i gefnogi gweithleoedd i ddatblygu diwylliant o ymddiriedaeth, o ddysgu ac o fod yn agored.

Mae ein tudalennau gwe newydd, Diogelwch Seicolegol yn y Gweithle, yn cynnwys gwybodaeth, arweiniad ac adnoddau y gellir eu defnyddio yn eich gweithle.

Ewch i’r dudalen pwnc

Dysgwch ragor am Ddiogelwch Seicolegol drwy ymuno â’n gweminar rhad ac am ddim ar 26 Tachwedd.

Digwyddiadau CIW sydd ar ddod

Gweithdy Ewch Amdani i Ffynnu – 29 Medi

Gall pobl ifanc rhwng 16 ac 24 oed ymuno â ni ar gyfer gweithdy ymarferol, rhad ac am ddim, i’ch helpu i deimlo’n hyderus ac yn barod i ffynnu yn y gwaith.

10:30 – 12:00, MS Teams

Cofrestrwch i fynychu

Gweminar Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith – 07 Hydref

Ymunwch â’r gweminar rhad ac am ddim hwn a dysgwch am Wasanaethau Cymorth yn y Gwaith yng Nghymru.

10:00 – 11:00, MS Teams

Cofestrwch i fynychu

Gweminar bwlio ac aflonyddu yn y gweithle – 04 Tachwedd

Ymunwch â ni i mewnwelediad gwerthfawr ynghylch adnabod bwlio ac aflonyddu yn y gweithle, ei atal a mynd i’r afael ag ef.

10:00 – 11:00, MS Teams

Cofestrwch i fynychu

Digwyddiad blynyddol Cymru Iach ar Waith – 12 Tachwedd

Ymunwch â ni yng Nghaerdydd ar gyfer ein digwyddiad blynyddol Cymru Iach ar Waith. Clywch am ein datblygiadau diweddaraf, mynnwch fewnwelediadau gan arbenigwyr blaenllaw iechyd a llesiant yn y gweithle a chysylltwch â sefydliadau eraill â’r un meddylfryd o bob cwr o Gymru.

09:00 – 13:00, Capital Quarter 2, Caerdydd

Cofrestrwch i fynychu

Gweminar ar Ddiogelwch Seicolegol yn y Gweithle – 26 Tachwedd

Ymunwch â ni i archwilio’r hyn y mae diogelwch seicolegol yn ei olygu a chamau ymarferol ar gyfer ei ddatblygu yn eich sefydliad.

10:00 – 11:00, MS Teams

Cofrestrwch i fynychu

Cymorth newydd i bobl sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes Math 2

A close up of colleagues looking at a laptop on a desk, one of them is pointing at the screen.

Mae canllaw newydd, sef Byw’n Dda gyda Diabetes Math 2, bellach ar gael i gefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes Math 2. Mae’n eu helpu i ddeall eu diagnosis, cael mynediad at gymorth a chymryd camau cadarnhaol tuag at reoli eu hiechyd o’r diwrnod cyntaf.

Mae canllaw wedi’i gynllunio ar y cyd gan bobl sy’n byw gyda diabetes, clinigwyr a Diabetes UK Cymru, a gall sefydliadau rannu’r canllaw drwy sianeli cyfathrebu mewnol i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth a’r adnoddau sydd ar gael i weithwyr sy’n byw gyda diabetes Math 2. Mae pecyn cymorth cyfathrebu ar gael i helpu i hyrwyddo’r canllaw yn eich gweithle.

Mynediad i’r canllaw

Cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig

Llun agos o berson yn ysgrifennu nodiadau wrth ddesg.

Ymunwch â DWP ac Able Futures am weminar i ddysgu am Fynediad at Wasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl yn y Gwaith a’r gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig.

Bydd y weminar yn esbonio:

  • Yr hyn y mae Able Futures yn ei gynnig
  • Pwy all gael gafael ar gymorth
  • Sut y gall gweithwyr gael mynediad yn uniongyrchol at y gwasanaeth
  • Sut y gall busnesau bach a chanolig gyfeirio staff at y cymorth sydd ar gael

Cofrestrwch i fynychu:

22 Medi 2026 (Saesneg yn unig)

20 Hydref 2026 (Saesneg yn unig)

Dyddiadau ac ymgyrchoedd allweddol mis Hydref

Mis Ymwybyddiaeth o’r Menopos (Hydref)

Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron (Hydref) 

Gweminar Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith  (07 Hydref) 

Gweithdy Camau Cyntaf Cymru Iach ar Waith  (08 Hydref) 

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref) 

Diwrnod Arthritis y Byd (12 Hydref)

 

Gallwch ddod o hyd i weddill ymgyrchoedd y flwyddyn ar ein gwefan.