Tachwedd 2026
Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)
Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.
Y mis hwn:
- Digwyddiad blynyddol Cymru Iach ar Waith
- Dathlu ein deiliaid Bathodyn Cydnabyddiaeth diweddaraf
- Gweminarau a gweithdai Cymru Iach ar Waith sydd ar ddod
- Profion Antigen Prostad-benodol (PSA) ar y safle ar gyfer staff Grŵp Llandrillo Menai
- Cadw’n iach y gaeaf hwn
- Cefnogaeth diabetes gan gymheiriaid
- Ymgyrchoedd mis Rhagfyr
Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.
Digwyddiad blynyddol Cymru Iach ar Waith
Diolch i bawb a ddaeth i ddigwyddiad blynyddol Cymru Iach ar Waith.
Gobeithiwn eich bod wedi cael y sesiwn yn werthfawr, a’ch bod wedi gadael y digwyddiad gyda syniadau a mewnwelediadau ffres i gryfhau iechyd a llesiant yn eich sefydliad.
Diolch yn arbennig i’r canlynol ein siaradwyr, haelodau’r banel a’n harddangoswyr am rannu eu harbenigedd, eu myfyrdodau a’u mewnwelediadau, a’n helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd iechyd a llesiant yn y gweithle yng Nghymru.
Roedd y digwyddiad yn nodi lansio dau weithdy newydd i gefnogi sefydliadau yng Nghymru i greu gweithleoedd iachach a mwy cynhyrchiol.
Hyrwyddwyr gweithio iach
Gweithdy ymarferol I ddatblygu Hyrwyddwyr Geithio Iach sy’n cefnogi gweithleoedd iachach a mwy cynhwysol.
Niwroamrywiaeth – Meddwl yn wahanol
Ymunwch â Cymru Iach ar Waith am sesiwn ddiddorol a chynhwysfawr a fydd yn archwilio’r hyn y mae’n ei olygu i greu gweithle cefnogol a niwro-gynhwysol.
Dathlu ein deiliaid Bathodyn Cydnabyddiaeth diweddaraf
Mae Cymru Iach ar Waith yn falch iawn o gael cydnabod sefydliadau sy’n gwneud cynnydd cadarnhaol o ran hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gweithle.
Llongyfarchiadau i ddeiliaid ein bathodyn Cyflogwr Gweithredol diweddaraf.
- Fun Foundations
- Grŵp Llandrillo Menai
- We Mind the Gap
Oes diddordeb gennych mewn cael cydnabyddiaeth i’ch sefydliad chi? Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.
Ewch i fathodynnau cydnabyddiaeth
Gweminarau a gweithdai sydd ar ddod
Mae gennym amrywiaeth o weminarau a gweithdai am ddim sydd â’r nod o hyrwyddo gweithleoedd a gweithwyr iachach ledled Cymru.
Gweminarau
Gweminar ar Ddiogelwch Seicolegol yn y Gweithle– 26 Tachwedd
Ymunwch â ni i archwilio’r hyn y mae diogelwch seicolegol yn ei olygu a chamau ymarferol ar gyfer ei ddatblygu yn eich sefydliad.
1000 – 11:00, MS Teams
Gweminar ar mental health and wellbeing at work – 26 Ionawr
Dysgwch sut i wella iechyd a llesiant meddyliol yn eich gweithle gyda strategaethau i wella diwylliant, cefnogi gweithwyr a hybu cynhyrchiant.
10:00 – 11:00, MS Teams
Arbedwch y dyddiad!
Gweithdai
Gweithdy Ewch, Amdani i Ffynnu – 26 Tachwedd
Gall pobl 16 – 24 oed ymuno â ni am weithdy ymarferol i’w helpu i deimlo’n hyderus, bod ganddyn nhw bopeth y mae ei angen arnyn nhw a’u bod yn barod i ffynnu yn y gwaith.
1330 – 1500, MS Teams
Gweithdy Camau Cyntaf – 19 Tachwedd / 08 Rhagfyr
Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy ymarferol i’ch helpu i gymryd eich camau cyntaf tuag at wella iechyd a llesiant yn y gwaith.
19 Tachwedd 1000 – 1200, MS Teams
08 Rhagfyr, 1300 – 1500, MS Teams
Profion Antigen Prostad-benodol (PSA) ar y safle ar gyfer staff Grŵp Llandrillo Menai
Yn ystod Tashwedd, rydym am rannu sut y lansiodd Grŵp Llandrillo Menai ei ymgyrch Sgwrs Gyda’r Hogia i godi ymwybyddiaeth o iechyd dynion a chanser y brostad. Drwy ddarparu profion PSA ar y safle i staff 40 oed a hŷn, cynyddodd y sefydliad fynediad at brofion sgrinio, anogodd gynnal sgyrsiau am iechyd dynion, a chefnogodd gyfleoedd i ganfod afiechyd yn gynnar.
Awgrym gorau i gyflogwyr eraill
Gall dod â mentrau iechyd yn uniongyrchol i’r gweithle ei gwneud hi’n haws i weithwyr gael mynediad at gymorth a gwasanaethau iechyd ataliol. Gall lleihau rhwystrau i gyfranogiad helpu i gynyddu ymgysylltiad a gwella ymwybyddiaeth o faterion iechyd pwysig.
Os ydych chi eisiau rhannu sut mae eich sefydliad chi yn hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gwaith, cysylltwch â ni i rannu eich stori.
Cadw’n iach yn ystod y gaeaf
Fel cyflogwr yng Nghymru, rydych chi’n chwarae rhan bwysig wrth gadw’ch gweithlu’n iach y gaeaf hwn.
Lawrlwythwch adnoddau o blatfform Brandkit Iechyd Cyhoeddus Cymru. (Dolen Saesneg yn unig)
Helpu i atal afiechydon y gaeaf rhag lledaenu
Anogwch weithwyr i olchi eu dwylo’n rheolaidd, gorchuddio peswch a thisian â hances bapur neu benelin, aros gartref pan fyddant yn sâl a gadael awyr iach i mewn i fannau a rennir. Gall hyd yn oed ychydig funudau o awyr iach helpu i atal feirysau rhag lledaenu.
Dysgwch ragor am atal a rheoli heintiau.
Cael eich brechu
Trwy annog staff cymwys i gael eu brechu, gallwch chi helpu i amddiffyn eich gweithlu, lleihau absenoldebau oherwydd salwch a hyrwyddo iechyd y cyhoedd ledled Cymru.
Gofalu am lesiant
Treuliwch amser yn yr awyr agored yng ngolau dydd lle bo modd a chadwch mewn cysylltiad. Gall sgwrs fer, galwad ffôn neu daith gerdded fer helpu i wella llesiant yn ystod misoedd y gaeaf. Cymerwch olwg ar Galendr Llesiant Natur yn y Gweithle am ragor o ysbrydoliaeth i gysylltu â natur dros fisoedd y gaeaf.
Diolch am ein helpu i gadw pobl Cymru yn iach y gaeaf hwn.
Cefnogaeth diabetes gan gymheiriaid
Mae Rhaglen Mynd i’r Afael â Diabetes Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal sesiwn cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein ar 24 Tachwedd i bobl sydd wedi cael diagnosis o Math 2 Ddiabetes.
Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Y pecyn cymorth diweddaraf i gleifio
- Maeth ac ymarfer corff gan arbenigwr diabetes cymwy
- Eich helpu i fyw yn iach gyda diabetes
- Gwrando ar stori llwyddiant bersonol gan rywun sy’n byw gyda diabetes
24 Tachwedd 1000 – 1300, MS Teams
Cofrestrwch i fynd i’r sesiwn neu anfonwch e-bost at: [email protected]
Rhannwch hwn gyda’r gweithwyr neu sefydliadau rydych chi’n cydweithio â nhw.
Dysgu rhagor am gefnogi gweithwyr â diabetes
Ymgyrchoedd mis Rhagfyr
Ydych chi’n chwilio am ffyrdd o hyrwyddo iechyd a llesiant yn eich gweithle chi?
Dyma rai ymgyrchoedd y gallwch eu cefnogi yn eich gweithle chi yn ystod mis Rhagfyr.
Diwrnod AIDS y Byd (01 Rhagfyr)
Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau (03 Rhagfyr)
Gallwch ddod o hyd i weddill ymgyrchoedd y flwyddyn ar ein gwefan.